Carcharu dyn am geisio treisio mam a'i phlentyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth geisio treisio dynes a'i merch pedair oed, a bygwth taflu plentyn arall i mewn i afon, wedi cael ei ddedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar.
Fe wnaeth Anthony Williams, 43 oed o Hwlffordd, ymosod ar y ddynes tra'r oedd hi'n cerdded gyda'i phlant yn y dref fis Mai.
Yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth Williams gyfaddef i geisio treisio dynes dros 18 a merch iau na 13 oed.
Cafodd cyfnod Williams ar drwydded hefyd ei ymestyn wyth mlynedd.
Dywedodd Robin Rouch ar ran yr erlyniad fod Williams wedi dweud wrth y ddynes bod angen iddi ddadwisgo neu y byddai'n brifo ei phlant.
Ar ôl ceisio treisio'r ddynes, fe orfododd i'r fam ddadwisgo'r plentyn pedair oed ac yna ceisio ei threisio hi.
'Gwirioneddol ffiaidd'
Clywodd y llys fod gan Williams broblem yfed a'i fod yn gwario cannoedd ar alcohol.
Dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod yr achos yn un ofnadwy a bod Williams wedi rhoi'r ddynes a'i phlentyn trwy ddioddefaint fyddai'n newid eu bywydau am byth.
Wedi'r achos, fe ddisgrifiodd Michael Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron y drosedd fel un "wirioneddol ffiaidd".
Dywedodd: "Ni ddylai unrhyw un orfod wynebu'r hyn aeth y dioddefwyr trwyddo. Dangosodd y fam ddewrder go iawn wrth wneud popeth yn ei gallu i leihau'r niwed i'w phlant."