Yr hyfforddwr o Ddolgellau sy'n gweithio i Aston Villa

  • Cyhoeddwyd
Aron ParryFfynhonnell y llun, Aron Parry

Fel llawer o fechgyn ifanc eraill yng Nghymru, yn ei glwb lleol yn Nolgellau y dechreuodd Aron Parry, 23, chwarae pêl-droed. Ond erbyn heddiw mae'n rhan o dîm hyfforddwyr dan 23 Aston Villa.

Beth yw gwyddor chwaraeon?

Gwyddonydd perfformiad corfforol ar gyfer y tîm o dan 23 Aston Villa yw Aron Parry. Yn gryno term ydy hwn ar gyfer Gwyddonydd Chwaraeon sy'n gweithio mewn pêl-droed.

Prif gyfrifoldeb swydd Aron yw rheoli system GPS y chwaraewyr.

"Mae llawer o rinweddau i wyddor chwaraeon, cyflwr y chwaraewyr, maeth a bwyd a dadansoddiad perfformiad fideo," eglura Aron.

"Mae pob un o'r chwaraewyr yn gwisgo fest.

"Ar y fest mae teclyn wedi'i atodi, ac mae pob chwaraewr gyda teclyn bach unigryw i'w hunan."

"Fi sydd yn edrych ar faint maen nhw'n rhedeg, pa mor gyflym maen nhw'n rhedeg, faint o gyflymiadau (accelerations) ac arafiadau (decelerations) mae'r chwaraewyr yn gwneud."

"Mae'r data yma yn cael ei ddefnyddio i greu adroddiadau byr a syml o'r sesiwn er mwyn rhoi adborth i'r hyfforddwyr.

"Pwrpas hyn yw paratoi'r chwaraewyr i'w perfformiad gorau posibl ar gyfer diwrnod y gêm."

Cychwyn da

"Yn fy ail flwyddyn ym mhrifysgol Loughborough ddechreues i hyfforddi pêl-droed. A gyda thîm y genod, fel is-reolwr," eglura Aron.

"Roedd hwn yn adeiladol i fi, dysgu sut i reoli grŵp o bobl a chael profiad o hyfforddi ar y cae.

"Nid yn unig oedd hwn yn werthfawr ar gyfer fy ngyrfa pêl-droed ond hefyd fy natblygiad fel person yn y brifysgol.

"Roedd sefyll fyny a siarad o flaen grŵp o ferched yn frawychus ar y pryd!

"Gwrddes i lawer o ffrindiau sydd yn dal yn agos iawn i fi wrth fod yn rhan o'r tîm."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol loughborough
Disgrifiad o’r llun,

Aron (chwith) yn hyfforddi

Blwyddyn yn Birmingham

Yng nghanol ei gwrs israddedig, treuliodd Aron flwyddyn yn gweithio ar leoliad yng nghlwb pêl-droed Birmingham.

"Nath hwnna agor fy llygaid i sut oedd gwyddoniaeth chwaraeon yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchedd proffesiynol," dywedodd Aron.

"Un o'r pethau pwysicaf ddysges i yna, oedd pwysigrwydd personoliaeth. Bod yn ti dy hun a mynegi hynny yn ystod dy waith a gyda'r chwaraewyr a'r staff.

"Ynghlwm â hyn, roedd y datblygiad mewn ymddiriedaeth a gonestrwydd rhyngof i a gweddill y chwaraewyr a'r staff mor bwysig. Nid yn unig mae'n bwysig ar y cae wrth weithio fel tîm i ennill tri pwynt ar b'nawn dydd Sadwrn ond hefyd yn gymdeithasol.

"Ti angen y bond cryf hynny i gydweithio fel tîm. Mae gweithio fel tîm a chwblhau targedau yn rhywbeth dwi'n mwynhau yn fawr."

Ffynhonnell y llun, Birmingham FC
Disgrifiad o’r llun,

Aron (chwith) yn hyfforddi yn Birmingham

'Trin y chwaraewyr fel person yn gyntaf, cyn athletwyr'

"Gorffennes i fy mlwyddyn olaf yn Lougborough, a chael blas pellach ar ochr gorfforol pêl-droed dynion," meddai Aron.

"Roeddwn i'n cael fy mentora gan ddyn o'r enw Adam Whitney, dysgodd lawer i mi a ffurfies i berthynas da gyda fo. Roedd o'n dysgu ac yn lliwio'r hyn ddysges i'n Birmingham gynt mewn i weithred.

"Roeddwn i mewn amgylchedd saff a doedd dim pwysau os oedd rhywbeth yn anghywir. Roedd hefyd yn gyfle i mi gael oriau o brofiad hyfforddi'r chwaraewyr yn y gampfa ond hefyd ar y cae gyda'r tîm cyntaf y flwyddyn honno.

"Y rhinwedd dwi'n trysori fwyaf yw fy ngallu i ddod i nabod pobl yn bersonol. Trin y chwaraewyr fel person yn gyntaf, cyn ystyried nhw'n athletwyr.

"Un o'r dywediadau dwi'n selio fy agwedd tuag at fy nghydweithwyr a chwaraewyr yw hyn:

"They don't care how much you know, until they know how much you care.

"Ma hwn yn un peth dwi'n coelio'n gryf ynddo. Mae hyn wedi dod yn rhan o fy ngwerthoedd ers fy nghyfnod yn Birmingham."

Dysgu drwy ddoethuriaeth

"Arhosais am flwyddyn arall yn y brifysgol, i wneud doethuriaeth mewn cryfder a chyflyru (strength and conditioning)," dywedodd Aron.

"Ac i fod yn hollol onest roedd hyn oherwydd doedd dim cyfleoedd nôl yn Birmingham ar y pryd, ond hefyd er mwyn treulio mwy o amser dan aden Adam, fy mentor.

"Treulies i'r flwyddyn yn dysgu fwy am ochr y gampfa a chodi pwysau yn cynnwys techneg symudiadau ar y cae wrth redeg a newid cyfeiriad.

"Ges i hefyd dreulio'r tymor gyda thîm o dan 15 Caerlŷr. Roedd hyn i gyd i wneud gyda chryfder a chyflyru ac yn brofiad newydd arall oedd yn mynd law yn llaw gyda fy astudiaethau.

"Byswn i'n cael y cyfrifoldeb i redeg sesiynau gampfa a chynhesu fyny cyn gemau."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Loughborough

Paratoi'r chwaraewyr mor effeithiol a phosib

"Mewn wythnos o ymarfer, ni'n trio osgoi gwneud yr un ymarfer bob diwrnod o'r wythnos. Mae angen cymysgu ymarfer er mwyn i bob chwaraewr allu fynd drwy bob cyflymder gwahanol.

"Ni'n gwneud hyn wrth addasu driliau ac ymarferion. Gweithio ar gaeau chwarae llai o faint er mwyn ffocysu ar gyflymder er enghraifft.

"Mae'n hanfodol cael perthynas dda efo'r hyfforddwyr er mwyn sicrhau llwyddiant o safbwynt corfforol, er mwyn integreiddio efo'r elfen dechnegol a thactegol.

"Helpu paratoadau wythnosol y clwb fod mor effeithiol â phosib i'r chwaraewyr yn gorfforol.

"Mae gennym ni 2/3 chwaraewr sydd yn ymarfer bob dydd gyda'r tîm cyntaf ond yn chwarae gemau i ni.

Caniateir hyd at dri chwaraewr dros yr oedran o 23 fod yng ngharfan unrhyw garfan o dan 23. Mae hyn yn galluogi chwaraewyr mwy profiadol a hyn i gael amser gem ar ôl dod nôl o anaf neu os ydynt ddim mewn ffafriaeth prif reolwr y tîm cyntaf.

"Dyma pryd mae'r tim 23 yn dod yn ddefnyddiol i'r tîm cyntaf," meddai Aron.

"Cadw'r chwaraewyr ar dop ei gem wrth alluogi amser allweddol iddyn nhw ar y cae yn chwarae."

Ffynhonnell y llun, Aston Villa
Disgrifiad o’r llun,

Ashley Young ac Aron

Edrych i'r dyfodol

"Dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu'r system GPS gyda'r tîm 23. Mae'r potensial yn ddiddiwedd," meddai Aron.

"Ma na lawer o gyfleoedd a phethau i'w ddatblygu. Prosiectau fyddai'n gallu para tymhorau.

"Ac os nad ydw i'n gwneud job wael ohoni i, dwi'n gobeithio galla i aros am gwpl o flynyddoedd yma!

"Ond y gôl hir dymor yw gweithio o fewn tîm cyntaf, mewn bywyd delfrydol yn yr Uwch Gynghrair.

"Hoffwn i gadw fy opsiynau yn agored. A'r ffordd dwi'n edrych arni yw os ydw i'n gallu cadw lefel uchel wrth roi adborth y data law yn llaw efo fy mhrofiadau yn hyfforddi ar y cae, bydd hyn yn fy ngwneud yn hyfforddwr mwy cyflawn yn y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig