Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Huddersfield
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd yr Adar Gleision fuddugoliaeth ddydd Sadwrn adref yn erbyn Huddersfield - un o'r timau ar frig y Bencampwriaeth.
Dechrau gwan gafodd Caerdydd ac ar ôl deuddeg munud fe wnaeth Danel Sinani ergydio â'i droed chwith a rhwydo i Huddersfield.
Roedd agwedd mwy cadarnhaol gan Gaerdydd yn yr ail hanner er fod Huddersfield hefyd wedi cael sawl cyfle.
Ar ôl 74 munud fe beniodd Kieffer Moore groesiad Joe Ralls ar ôl cornel a rhoi Caerdydd yn gyfartal.
Fe drawsnewidiodd yr awyrgylch yn y stadiwm ac roedd Caerdydd bellach yn chwilio am fuddugoliaeth.
Dair munud heibio'r 90 fe gododd Moore unwaith eto yng nghanol y blwch cosb i gyfarfod croesiad Isaak Davies a phenio i'r rhwyd ac fe roddodd y gôl fuddugoliaeth i Gaerdydd.
Cyn-ymosodwr Cymru, Steve Morison a'i gynorthwy-ydd Tom Ramasut sydd yn rheoli Caerdydd ar hyn o bryd wrth i gyfarwyddwyr y clwb fwrw ymlaen â'r broses o benodi olynwyr i Mick McCarthy a Terry Connor.