Recordiau byd Cymreig: 1200 o Joneses a deuawd rhwng dau gyfandir

  • Cyhoeddwyd

Mae'n 70 mlynedd ers cyhoeddi'r Guinness Book of World Records cyntaf ac mae nifer o Gymry wedi bod yn rhan o'r rhestr am gyflawni bob math o bethau.

Felly i nodi'r achlysur, dyma gofio rhai o'r recordiau byd Guinness Cymreig sydd wedi eu gosod dros y degawdau.

Deuawd ar draws Môr yr Iwerydd

Shan Cothi gyda disgyblion ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Shân Cothi yn dathlu torri record byd gyda rhai o'i chyd-gantorion

Does dim syndod efallai bod record byd yn ymwneud â chanu wedi cael ei gosod yng Nghymru - a Phatagonia.

Ar 5 Mehefin 2015, i nodi diwrnod Cerddoriaeth y BBC, fe wnaeth y gantores a chyflwynydd Radio Cymru Shân Cothi gydganu gydag Andreas Evans. Roedd hi yng Nghymru ac yntau ym Mhatagonia a'r bwriad oedd torri'r record byd am y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd.

Calon Lân oedd y gân, ac roedd Cerddorfa BBC Cymru, côr, a phlant ysgol hefyd yn rhan o'r perfformiad.

Andreas Evans yn canu
Disgrifiad o’r llun,

Andreas Evans yn y Gaiman

Mae 7,000 o filltiroedd rhwng Cymru a Phatagonia, ac i ardystio fod y rheolau wedi'i dilyn yn fanwl, roedd cynrychiolydd o Guinness World Records yn Neuadd Hoddinott yng Nghaerdydd i gadw golwg ar y perfformiad.

Wrth gofio'n ôl ddegawd yn ddiweddarach dywedodd Shân Cothi: "Er mwyn i'r cydganu swnio'n berffaith ar yr awyr, roedd rhaid cynllunio'n ofalus.

"Dwi'n cofio canolbwyntio'n arw achos y delay a rhywbeth fel saith eiliad rhwng Neuadd Hoddinott a'r Wladfa ac Andreas.

"Dwi'n cofio'r tensiwn i weld os oedde ni 'di llwyddo - achos oedd e'n cael ei ddarlledu'n fyw, a phan 'nath y fenyw gyhoeddi yn swyddogol ein bod ni wedi llwyddo, 'nath y lle ffrwydro."

Jones Jones Jones

Yn 2006, fe dorrwyd y record byd am y nifer mwyaf o bobl gyda'r un cyfenw i fod mewn un lle - a'r enw wrth gwrs oedd Jones.

Sweden oedd yn dal y record wedi i 583 o bobl gyda'r enw Norberg ddod at ei gilydd mewn un lleoliad.

Ond fe chwalwyd y record honno wedi i 1,224 o Jonesiaid ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, lle'r oedd y perfformwyr a'r gynulleidfa i gyd yn rhannu'r un cyfenw.

Ar y llwyfan roedd Elin Fflur (Jones), John Owen-Jones, y diweddar Dai Jones - a'r perfformiwr o UDA Grace Jones.

Roedd y cyfan yn rhan o raglen dogfen S4C o'r enw… Jones Jones Jones.

Diffodd canhwyllau drwy glocsio

Tudur Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Tudur Phillips yn dysgu plant i glocio mewn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Fe wnaeth y clocsiwr Tudur Phillips osod record y byd am ddiffodd y nifer fwyaf o ganhwyllau mewn munud drwy neidio a chlicio ei sodlau clocsio gyda'i gilydd.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2020, roedd 60 cannwyll wedi eu gosod mewn rhes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ac fe lwyddodd i ddiffodd cyfanswm o 55, gan osod Guinness World Record swyddogol.

Fe wnaeth fideo ohono'n cyflawni'r gamp fynd yn feiral, gyda dros 100 miliwn yn ei wylio.

Record byd yr Urdd

I nodi pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed fe wnaeth cefnogwyr y mudiad dorri dwy record byd.

Ar fore 25 Ionawr 2022, fe wnaeth cannoedd o unigolion a grwpiau ganu'r gân Hei Mistar Urdd ac uwchlwytho'r recordiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan dorri record byd am lwytho'r nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu'r un gân ar Facebook ac ar Twitter.

Disgyblion ysgol gynraddFfynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth fu'n rhan o'r canu a dathliadau canrif o'r Urdd

Recordiau byd 2025

Yn gynharach eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe geisiwyd gosod record am fod y cyflymaf i deipio Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch gydag un bys.

Roedd nifer wedi cymryd rhan yn y sialens, ond Ellyn Baker, sy'n gweithio yng Ngardd Botaneg Genedlaethol Cymru, enillodd - mewn 15.33 eiliad.

Roedd yn un o sawl record byd gafodd ei dorri ar y diwrnod - gan gynnwys un am dynnu trên stêm am 20m.

Fe gafodd y record ei gosod yn Rheilffordd Llyn Llanberis wedi i Sue Taylor-Franklin a Sam Taylor, o Aberdâr, gwblhau'r dasg mewn 40.53 eiliad.

Hefyd eleni fe wnaeth gwirfoddolwyr ar hyd Afon Taf osod record byd newydd am y nifer fwyaf o bobl i lanhau afon ar yr un pryd.

Roedd 1,327 o bobl yn rhan o ddigwyddiad 'Taff Tidy', ac mi dorron nhw'r record flaenorol yn gyfforddus.

Fe wnaethon nhw wasgaru mewn wyth man penodol rhwng Bannau Brycheiniog a Bae Caerdydd.

Y record byd blaenorol - a gafodd ei osod fis ynghynt - oedd 329 o bobl yn glanhau Afon Ganges yn India.

Crôl a hanner

Gareth Murphy mewn tafarnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Murphy yn ystod ei ymgais i dorri Guinness World Record

Ac roedd un Cymro yn dathlu wrth iddo dorri record byd...

Yn 2022, fe wnaeth Gareth Murphy o Gaernarfon fynd ar crôl tafarndai hir iawn yng Nghaerdydd i geisio dorri record byd Guinness.

Fe wnaeth o ymweld â 56 o dafarndai Caerdydd a thorri record byd am ymweld â'r nifer fwyaf o dafarndai mewn 24 awr. Roedd rhaid iddo gyflawni'r her fel unigolyn a phrynu ac yfed diod feddal neu alcoholig ymhob un.

Yn flaenorol, Matt Ellis oedd yn dal y record yma ar ôl ymweld â 51 o dafarndai yng Nghaergrawnt a thref St Neots fis Hydref 2021.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig