Yr ymladdwr cawell o Gaernarfon sy'n cwffio i drechu iselder

Courtney Louise Roberts ar y rhaglen ddogfen SGRAP
- Cyhoeddwyd
"Yn y cage dwi'm ofn cael fy mrifo achos mae yna gymaint o adrenalin dwi'm yn rili teimlo fo."
Yn ôl Courtney Louise Roberts, 22 mlwydd oed o Gaernarfon, mae ymladd cawell wedi trawsnewid ei bywyd fel rhywun sy'n profi iselder.
Ym mis Ebrill llynedd fe wnaeth Courtney gystadlu am y tro cyntaf mewn noswaith crefft ymladd cymysg (MMA) ac ennill yn y gystadleuaeth ymladd drwy arddull graplio (grappling) i ferched.
Mae graplio'n dechneg ymladd jiu-jitsu sy'n seiliedig ar daflu, baglu, ymladd ar y ddaear a dal person i'r llawr.
Mae Courtney yn un o sêr y ddogfen SGRAP ar BBC iPlayer sy'n ei dilyn hi, Charlie a Craig Bonc wrth iddynt baratoi ar gyfer noson flynyddol i ymladdwyr cawell amatur yng ngogledd Cymru.

Courtney'n dod yn fuddugol yn y gawell ym mis Ebrill 2024
Cic-bocsio a jiu-jitsu wedi trawsnewid ei bywyd
Tra'n tyfu i fyny, chwarae pêl-droed oedd ffordd Courtney o gadw'n heini. Mae'n dweud iddi wastad "deimlo fel tomboi wrth dyfu i fyny" a'i bod "wedi bod yn ffrindia' efo hogia'" drwy ei bywyd.
Ond â hithau'n profi cyfnodau o iselder, roedd rhywbeth ar goll ac roedd hi'n teimlo'r angen am rywbeth i roi ei hamser a'i hegni iddo.
Dechreuodd fynychu dosbarthiadau crefft ymladd cymysg (mixed martial arts) yng nghlwb PMA yng Nghaernarfon dair blynedd yn ôl. Ers hynny mae'n ymarfer campau crefft ymladd cymysg fel cic-bocsio a jiu-jitsu o leiaf bedair gwaith yr wythnos gyda'i hyfforddwr, Chris.
"Mae kickboxing yn meddwl lot i fi, alla i ddim imaginio bywyd fi hebddo fo," eglurai.
"Mae o'n helpu iechyd meddwl chdi, ofiysli ti'n ffit, ti'n iach, ti'n edrych yn dda a ti'n teimlo yn dda ond hefyd mae o'n ffordd dda i gael frustrations chdi gyd allan.
"Hefyd os ti'n teimlo'n unig neu wbath ti rownd llwyth o bobl ti'n 'nabod a ffrindia' chdi gyd wrth trênio."

"Mae kickboxing yn meddwl lot i fi"
Yn ôl Courtney, mae troi at ffitrwydd a chadw i ffwrdd o alcohol yn gwneud llês i'w chorff a'i iechyd meddwl:
"Fedri di fynd ar sesh i gael dy deimladau allan, ond os ti'n mynd i training ti'n gallu neud o mewn ffordd iach.
"Mae lot o bobl oed fi yn yfad, yfad, yfad. 'Sgena i ddim interest yn hynny. Swn'i rather bod ar y mat yn cwffio ar nos Sadwrn na bod mewn pyb.
"Efo depression fi, dwi'n mynd drwy amser drwg ar y funud so dwi'n trainio mwy. Fel'na dwi'n copio."

"Swni rather bod ar y mat yn cwffio ar nos Sadwrn na bod mewn pyb"
Prinder merched sy'n ymladd fel camp
Yn y ddogfen SGRAP rydym yn dilyn taith Courtney wrth iddi baratoi at noson Market Mayhem sy'n noson o gystadlu MMA yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.
Wrth holi Courtney os oes arni ofn ymladd mewn nosweithiau o'r fath, meddai: "Mae mêts fi yn galw fi yn nytar. Dwi'm yn cêrio ia. Os dwi'n teimlo bo' fi isio neud wbath, wna i fynd amdano fo. You only live once.
"Os ydi o ddim yn mynd yn dda yna mae yna bob tro tro nesaf, a wna i drio eto."

"Dwi'n cwffio yn erbyn dynion yn training bob tro. Mae yna lot mwy o genod mewn dosbarthiadau ffitrwydd.
"'Sneb yn disgwyl i fi fod yn gryf, yn fawr, yn masculine. Ti ar mat llawn hogia', llawn dynion a ti'n meddwl 'waw fi ydi'r unig hogan yma' a mae hynna yn deimlad da achos dydi pobl ddim yn rhoi eu hunain yn y sefyllfa yma lle maen nhw'n cwffio hogia."
Er ei bod yn profi gwefr o ymladd yn erbyn dynion tra'n ymarfer, mae Courtney hefyd yn ei weld "yn bechod' nad oes mwy o ferched yn cymryd rhan gan ei fod yn dysgu merched sut i amddiffyn nhw eu hunain:
"Fel hogan os ti ddim yn gwybod sut i edrych ar ôl dy hun, mae bywyd yn rili peryg. Os dwi mewn situation peryg, i gymharu efo mêts fi sydd heb trênio erioed, neith nhw banicio. Alla i o leia' trio i amddiffyn fy hun.
"Fasa'n neis cael dosbarthiadau i jest genod ond does yna ddim digon o genod i Chris gynnig hynna ar hyn o bryd."

Ymladd yn erbyn merch arall ym mis Ebrill 2024
Newid agweddau
Beth mae Courtney'n feddwl yw'r rheswm pam nad oes llawer o ferched yn cael eu denu at ddysgu ymladd fel camp?
"Achos mae o'n cweit sgeri i gychwyn, ti'm yn gwybod pwy sydd yn y gyms yma. Ti'n cael dy roi mewn situation mor vulnerable, wedyn ti'm yn gwbod be ti'n 'neud, ti'n gorfod neud o efo pobl sy'n gwybod be' i 'neud a mae o'n gallu bod yn intimidating.
"Dwi 'di cael nose bleeds, tynnu muscles a mae coesa' fi yn ddu bob tro. Ond i fi, mae o werth o."

Yn yr ornest ymladd drwy dechneg graplio nôl ym mis Ebrill 2024
Gobaith Courtney wrth ymddangos ar SGRAP yw y bydd yn ennyn diddordeb merched at fuddion dosbarthiadau fel bocsio-cic a jiu jitsu, sy'n arwain yn y pendraw at allu cystadlu mewn nosweithiau ymladd cawell.
Meddai: "Os wyt ti'n 'nabod rhywun sy'n 'neud o ac efo diddordeb, cysyllta efo nhw. Tasa na hogan yn mesinjio fi 'wan yn deud dwisho cychwyn hyn ond dwi ofn, faswn i jest yn deud tyrd efo fi. Dim ots os dwi'm yn 'nabod nhw faswn i bob tro'n helpu."
Ychwanegodd cynhyrchydd-gyfarwyddwr SGRAP, Guto Rhys Huws:
"I Courtney, mae clwb PMA Caernarfon yn cynnig dihangfa wrth iddi ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Ac fel rhywun sydd wedi arfer efo 'egos dynion' ar y mat, mae hi'n saernïo ei lle fel merch mewn byd sydd ddim yn brin o testosterone.
"Drwy gymysgedd o elfennau pry ar y wal, cyfweliadau, golygfeydd stylized, a cherddoriaeth edgy dwi'n gobeithio fod SGRAP yn cynnig portreadau amrwd a doniol o dri pherson sy'n chwilio am rhywbeth mae pawb ei angen mewn bywyd: outlet."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl