Haf poeth yn arwain at 'gynnydd mawr' yn nifer y tanau gwyllt

Roedd tanau gwair yn llosgi yng Ngheredigion am sawl diwrnod yn ardal Ffair-rhos ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o danau gwyllt wedi bod yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yn barod eleni na chyfanswm unrhyw flwyddyn ers 2020, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae nifer y tanau gwair yn y de hefyd ar ei uchaf ers o leiaf pum mlynedd, er bod pedwar mis o'r flwyddyn dal yn weddill.
Er bod swyddogion tân yn ceisio gweithio gyda thirfeddianwyr ac addysgu'r cyhoedd, maen nhw'n dweud bod yr haf hir a phoeth wedi cyfrannu at fwy o alwadau.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr," meddai Carl Williams, pennaeth gorsaf Aberhonddu i Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin.
"Mae'r risg yno achos bod y tir yn fwy sych."
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
Mae gwasanaeth y canolbarth a'r gorllewin eisoes wedi delio â 134 o danau gwyllt yn 2025, gyda dros hanner y rheiny ym mis Mawrth.
Mae'n golygu eu bod nhw eisoes wedi pasio cyfanswm blynyddol uchaf y pum mlynedd ddiwethaf, gyda 111 digwyddiad yn 2022.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd hefyd wedi delio â 63 o danau gwyllt eleni, gan basio'r 54 a gafwyd yn 2022 yn barod.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn cofnodi eu hystadegau'n wahanol, ond yn dweud bod cyfanswm y tanau gwair maen nhw wedi taclo eleni eisoes wedi cyrraedd 1,429.
Unwaith eto, mae hynny'n uwch na'r 1,418 o alwadau a gawson nhw drwy 2022.
Ar gyfer yr holl danau gwyllt a thanau gwair, coedwigoedd a chnydau, mae'r tri gwasanaeth tân yng Nghymru wedi cael eu galw i 2,918 o ddigwyddiadau eleni.
Roedd y ffigwr cyfatebol ar gyfer yr un adeg o'r flwyddyn yn 2022 yn 2,708, felly hon, mae'n debyg, fydd eu blwyddyn brysuraf y degawd yma.
Roedd Gwasanaeth Tân y Gogledd yn ymateb i dân gwair ger cartrefi yn Llandudno yn gynharach yr wythnos hon
"Yn Aberhonddu mae gennym ni gerbyd pob tirwedd, yr unig un yn ardal y canolbarth a'r gorllewin," meddai Carl Williams.
"Rydyn ni wedi gweld hwnna'n mynd allan yn lot fwy aml.
"Eleni roedden ni'n disgwyl haf poethach, sychach, felly mae ganddoch chi'r risg yna.
"Weithiau mae e oherwydd tir sydd ddim yn cael ei reoli – os nad yw'n cael ei reoli ac mae tân yn cynnau, mae'n gallu achosi tanau gwyllt mwy difrifol."
'Angen cydweithio â ffermwyr'
Ychwanegodd Mr Williams fod llawer o waith y gwasanaeth tân yn mynd tuag at helpu ffermwyr i losgi eu tir yn iawn, gweithio gyda thirfeddianwyr i wella mynediad i lefydd anghysbell, ac addysgu pobl ifanc am risgiau tân.
"Mae angen deall os oes ganddoch chi farbeciw untro, er enghraifft, i sicrhau eich bod chi'n gosod slabiau i lawr, fel nad yw e'n llosgi'r glaswellt a mynd ar dân," meddai.
Ond gyda newid hinsawdd, mae'n dweud ei bod yn "anochel" y gallai tanau gwyllt ddod yn fwy cyffredin os yw'r amgylchedd yn mynd yn fwy poeth a sych.
"Os yw pobl yn teimlo bod risg, bydden ni'n eu hannog nhw i gysylltu gyda'r gwasanaeth tân a gallwn ni helpu gyda cheisio rheoli hynny," ychwanegodd.
"Byddai'n well gennym ni, er enghraifft, os yw ffermwr eisiau llosgi tir, bod ganddon ni un swyddog yno i wneud yn siŵr bod e'n cael ei wneud yn saff, yn hytrach na gorfod anfon 10 cerbyd nes ymlaen achos bod pethau wedi mynd allan o reolaeth.
"Mae angen i ni weithio mewn partneriaeth yn hynny o beth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.