Sain Helen yn ffarwelio â chriced wedi 150 o flynyddoedd

Chwaraewyr Morgannwg yn dathlu ennill Pencampwriaeth y Siroedd wedi buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Haf yn 1997
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Sul, 31 Awst, bydd y llen yn disgyn am y tro olaf ar un o feysydd chwaraeon mwyaf eiconig ac adnabyddus Cymru.
Fe agorodd Sain Helen yn Abertawe yn 1875 ac ers hynny mae wedi llwyfannu digwyddiadau athletau, bocsio, seiclo, hoci, tenis ac hyd yn oed pêl-droed Americanaidd!
Fe lwyfannwyd gêm ryngwladol tîm Rygbi Cymru yno am y tro cyntaf yn 1882, ond gyda'r Gweilch ar fin symud yno eleni mae'r cysylltiad criced cyfoethog â'r maes yn dod i ben am byth, wedi 150 o flynyddoedd.
Bydd y gêm olaf yn gweld ail dîm criced Abertawe yn croesawu ail dîm Pontardawe.
A hithau'n ddiwedd cyfnod, y sylwebydd Cennydd Davies sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mwyaf y gamp yn Sain Helen.
Chwe chwech Sobers

Gary Sobers, a chwaraedd dros India'r Gorllewin o 1954 i 1974
Ar ddiwrnod olaf Awst 1968 crëwyd hanes ar Sain Helen. Roedd Morgannwg yn croesawu Swydd Nottingham ym Mhencampwriaeth y Siroedd pan darodd capten yr ymwelwyr, ac un o fatwyr gorau'r byd o India'r gorllewin, Syr Garfield Sobers, chwech, a hynny chwe gwaith mewn pelawd – y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd mewn gêm dosbarth cyntaf.
Malcolm Nash odd y Cymro anffodus i gael y 'fraint' o fowlio'r belawd enwog. Roedd pump eisoes wedi hedfan mas o'r maes cyn i Sobers gledro'r olaf, a'r foment yn cael ei grisialu'n berffaith gan sylwebaeth Wilf Woolar ar y tonfeddu: "Mae e wedi gwneud hi - ma' Sobers 'di taro honna'r holl ffordd i Abertawe".
Morgannwg yn llorio Awstralia ddwywaith

Syr Donald Bradman, sy'n cael ei gydnabod gan lawer fel un o'r chwaraewyr criced groau erioed
Nôl yn 1948 roedd dros 25,000 o bobl wedi gwasgu mewn i'r maes i wylio batiwr Awstralia, yr athrylith Syr Don Bradman. Tair blynedd yn ddiweddarach roedd Morgannwg yn fuddugol yn erbyn De Affrica - y tro cyntaf i'r sir guro tîm prawf.
Ond roedd yr achlysuron mwyaf nodedig yn erbyn timau teithiol y byd yn 1964 ac yn 1968. Cyn i Awstralia deithio yn '64, Surrey oedd yr unig sir i'w curo ers 1912, ond fe newidiodd hynny wedi buddugoliaeth gofiadwy i dîm Ossie Wheatley.
Pedair blynedd yn ddiweddarach dyma hanes yn ail adrodd ei hun wrth i'r ysbrydoledig Don Shepherd, un a fyddai'n hawlio ei le yn oriel yr anfarwolion, arwain y tîm cartre' at fuddugoliaeth gampus arall yn erbyn Awstralia - o 79 o rediadau.
Gemau rhyngwladol

Ray Illingworth (pedwerydd o'r chwith) yn arwain Lloegr i'r maes mewn gornest yn erbyn Seland Newydd ar Sain Helen, Gorffennaf 1973
Sain Helen oedd y maes cyntaf yng Nghymru i gynnal gêm undydd ryngwladol. Roedd 10,000 yn bresennol i weld Lloegr, tîm a oedd yn cynnwys sêr megis Geoffrey Boycott, Ray Illingworth a Tony Greig, yn curo Seland Newydd yn 1973.
10 mlynedd yn ddiweddarach fyddai'r maes yn llwyfannu gêm yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, gyda Pakistan yn curo Sri Lanka o 50 rhediad. Hon oedd y gêm ryngwladol olaf i'w chwarae yn Abertawe.
Morgannwg yn cyrraedd y brig
Fe gynhaliwyd gemau Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf yn 1921 - defod a fyddai'n parhau tan 2019.
Dros gyfnod o 98 o flynyddoedd, roedd y maes yn rhan annatod o lwyddiant y sir, gan gynnwys tair pencampwriaeth fuddugol yn 1948, 1969 a 1997.
Bu dwy gêm yn Abertawe yn ystod ymgyrch 1997 wrth i Forgannwg guro Sussex a Sir Gaerloyw. Y seren heb os yn y cyntaf o'r rheiny oedd y chwaraewr tramor, Waqar Younis, gyda bowliwr cyflym Pakistan yn cipio wyth wiced am 17 rhediad.
Fe wnaeth y ddwy fuddugoliaeth osod sylfaen am yr hyn oedd i ddod wrth i'r Sir gipio'r teitl yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.
Yn arwain Morgannwg y flwyddyn honno oedd Matthew Maynard, a hynny 12 mlynedd ar ôl cynrychioli'r Sir am y tro cyntaf. Sgoriodd Maynard 100 ac yntau dal yn ei arddegau yn ei dymor cyntaf, a do, fe ddigwyddodd hynny ar Sain Helen!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Mawrth