Hwb i'r Henoed yn gwneud gwahaniaeth ym Môn

Suzanne a Tim Silcock
- Cyhoeddwyd
Mewn cornel fach o Ynys Môn, nepell o dref Biwmares, mae 'na ŵr a gwraig sy'n gweithio'n galed i sicrhau fod eu cymdogion oedrannus yn cael cwmni, bwyd a thipyn bach o hwyl.
Mae Suzanne a Tim Silcock, cyn berchnogion ar gwmni saws chili, wedi cael eu henwebu am Wobr Gwneud Gwahaniaeth yng nghategori Cymydog Arbennig.
Dywedodd Suzanne: "Roedd dysgu ein bod ni wedi'n henwebu yn dipyn o sypréis. Dim ond meddwl am eraill o'n i, oherwydd rhyw ddydd mi fyddwn ni gyd yn hen. Gyda'r byd fel mae o nawr... mae helpu dim ond un person yn gwneud gwahaniaeth."
Ond maen nhw'n helpu mwy na 'dim ond un person'. Rhedeg canolfan o'r enw Hwb Maes Gwyn y mae'r ddau ar eu stâd dai nhw. Mae Maes Gwyn yn stâd ar gyfer pobl oedrannus, bregus neu sydd angen gofal. Pwrpas yr Hwb yw rhoi rhywle i breswylwyr ddod i gael paned, tamaid o fwyd, cwmni a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Hwb Maes Gwyn
Un o'r pethau maen nhw'n ei fwynhau fwyaf am redeg yr Hwb yw cynnal Clwb Cinio ddwywaith yr wythnos. Bydd criw yn dod ynghyd am damaid o fwyd wedi'i goginio'n ffres gan Tim.
Eglura Suzanne: "Weithiau dydy person ddim yn teimlo fel coginio pryd mawr i un. Felly, maen nhw'n dod yma i'r Hwb. Rydyn ni fel teulu bach. Bydd pawb yn dweud wrth ei gilydd am yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos, os ydyn nhw wedi cael problem – efallai na chafodd y biniau eu casglu – rydyn ni'n eu helpu i ddatrys hynny."
Tu hwnt i goginio pizza a sgons cartref mae Tim yn mwynhau pethau technegol, a fo sy'n helpu'r trigolion efo unrhyw beth fel yna – o ddefnyddio ffôn symudol i newid bylbs a batris.
Dywedodd Tim: "Maen nhw wedi dysgu'n dda gyda'r ffonau symudol, mae rhai yn dda iawn am wneud fideos erbyn hyn! Dw i'n falch iawn ohonyn nhw."

Mark ac Ann, dau o ddefnyddwyr yr Hwb
Dau o'r rheiny sy'n byw ar y stryd ac yn dod i'r Hwb yw Ann a Mark. Maen nhw'n mwynhau'r gweithgareddau, ac wedi bod yn dod i sesiynau celf a chrefft lle greon nhw focsys adar, ond y rhai maen nhw wedi'u mwynhau'n benodol yw'r sesiynau cerddoriaeth.
Symudodd Mark, oedd yn arfer bod yn y fyddin, i fyw ar y stryd ychydig fisoedd yn ôl ac mae wir wedi gweld budd yn yr Hwb.
" Fe wnaeth rhywun argymell yr Hwb i mi, ac mae wedi bod yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl, ac i deimlo fel rhan o'r gymuned. Dyma'r tro cyntaf i mi fyw ar ben fy hun, a dw i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael rhywle fel hyn lle does dim angen gweithio'n galed i gael eich derbyn."
Mark sydd yn arwain y sesiynau cerddoriaeth gan ei fod yn dipyn o gitarydd, ac mae'r sesiynau wedi rhoi cyfle i Ann droi'n ôl at y piano.
"Ges i fy nisgrifio fel pianydd y grŵp gan Suzanne ond dydw i ddim o gwbl! Dw i'n trio ymuno os dw i'n medru ond dydw i ddim yn gerddorol," meddai Ann.

Un o sesiynau cerddoriaeth Mark, ble maen nhw'n dysgu caneuon o'r hen glasuron i ganeuon pop cyfoes
Ychwanegodd Mark: "Dydyn ni ddim yn smalio'n bod ni'n gerddorion medrus. Chwarae cerddoriaeth ydan ni. Mae canu yn ffordd dda o gadw'n iach hefyd – rydych chi'n anadlu mwy na fyddech chi, ac yn rheoli'ch anadlu. Dw i'n mwynhau, mae'n wych."
Tra bod Suzanne a Tim wedi bod yn gwirfoddoli, maen nhw eu hunain wedi bod yn dygymod â phroblemau iechyd eu hunain. Cafodd Suzanne ddiagnosis o gancr y croen yn gynharach eleni, ac fe ddywedodd ei fod wedi bod yn "sioc".
"Mae rhestr aros am driniaeth yn hir, allwch chi ddim mynd i'r ysbyty. Yn lwcus, fe gefais i dynnu un [tiwmor] oddi ar fy mhen, ac un arall oddi ar fy nghrimog a rydw i wedi bod yn disgwyl am y canlyniadau. Ond mae gweithio yn yr Hwb a delio gyda phobl yn mynd â fy meddwl oddi arno."

Tim yn paratoi sgons cartref
Mae Tim hefyd yn mynd drwy driniaeth cancr, ac mae o'n dweud fod yr Hwb wedi'i helpu:
"Os ga' i fod yn onest, mae o'r cic o'n i ei angen i godi o'r gwely yn y bore a gwneud rhywbeth. Dw i'n edrych ar fywyd mewn ffordd cwbl wahanol i sut o'n i'n arfer edrych arno, ac mae'r Hwb yn rhoi pwrpas i mi."
Mae selogion yr Hwb yn hynod ddiolchgar am waith Tim a Suzanne.
Dywedodd Ann: "Ro'n i'n arfer cadw fy hun i mi fy hun, ond mae hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi."
Ac yn ôl Mark: "Mae'r Hwb yn golygu ein bod ni'n gallu dod i rywle i rannu gofod. Rydyn ni'n lwcus iawn."
Yn ogystal â Suzanne a Tim, yng nghategori Cymydog Arbennig mae Eifion Williams (Llambed), Sharon Beck (Bwcle) a Macy Williams (Wrecsam) wedi'u henwebu hefyd.
Bydd Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 20 Medi 2025.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Awst