Ifaciwi'r Ail Ryfel Byd adref yn ei 'baradwys'

Disgrifiad,

Gwyliwch John Lyons yn sôn am ei brofiad o adael Llundain fel Ifaciwi

  • Cyhoeddwyd

Mae 80 mlynedd ers i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben ar 2 Medi 1945.

Nôl ar ddechrau'r 1940 doedd John Lyons yn siarad dim gair o Gymraeg ac mewn rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru o'r enw 1945: Diwedd y Rhyfel, mae'n ymysg rhai o'r ifaciwis wnaeth ffoi i Gymru.

Yn blentyn yn Llundain yn osgoi bomiau, fe symudodd i fyw i bentref Rhyd-wyn ar Ynys Môn ar ei fodryb.

Roedd tirwedd a diwylliant cefn gwlad Môn yn gwbl ddieithr iddo ac yn gyfnod ofnus iawn.

Ag yntau bellach yn 90 oed, mae John wedi dychwelyd i fyw i Rhyd-wyn ar ôl gyrfa hir fel un o Brif Swyddogion Heddlu Glannau Merswy.

Fe adawodd Ynys Môn yn 15 oed, ac mae bellach wedi dychwelyd, nid fel ifaciwi y tro hwn, ond fel Cymro sy'n ystyried Rhyd-wyn fel ei 'baradwys.'

Symud i Fôn

"Pan ddaeth y rhyfel fe gafon ni ein sgubo o Lundain, y fi, fy mam a Neli fy chwaer i Norfolk.

"Fuon ni yno am tua tri mis ac roedd mam yn cael dod efo ni am fy mod i o dan bump oed meddai.

Ar ôl dychwelyd i Lundain dros gyfnod y Nadolig, mae gan John atgofion byw iawn o'r bomio.

"Dwi'n cofio'n iawn, roedd y dociau ar dân a dwi'n cofio mynd lawr i'r amddiffynfeydd neu'r shelters, ac ro'n i wrth fy modd, achos roedden ni'n mynd at y bobl, a'r rheiny yn edrych ar ôl plant.

"Roeddech chi'n clywed y bombs yn disgyn a rhywun yn deud "that was close".

"Weles i ddim difrod achos do'n i ddim digon agos, ond roedden ni'n. mynd bob. bore wedyn i hel 'shrapnel', doedden ni ddim yn fod i neud ond dyna oedd plant i gyd yn 'neud," meddai.

John a NeliFfynhonnell y llun, John Lyons
Disgrifiad o’r llun,

John a'i chwaer Neli yn blant yn Llundain

Oherwydd sefyllfa deuluol fregus yn Llundain, daeth yr amser i John a'i chwaer Neli symud i rywle fwy diogel, a dyma neidio ar drên i Gaergybi.

"Mi aeth yna rywbeth o'i le efo'r teulu, ac mi ddoth fy nhad yn ei lifrau a i'r fflat ac oedd gynnon ni yn Hackney, Llundain.

"Nain yn hel Neli a finna i'r bathroom a deud wrthon ni am fod yn ddistaw gan fod mam a dad yn ffraeo, er mwyn i gael clywed be oedd yn mynd ymlaen.

"A'r diwrnod wedyn, ddoth fy nhad yn ôl a mynd â ni jyst fela," meddai.

Yn disgwyl am John a Neli ar Ynys Môn oedd aelwyd gartrefol ym mhentref Rhyd-wyn.

Yno buodd yn byw am yr wyth mlynedd nesaf gyda'i Anti Lissie.

Fe symudodd nôl i Lundain yn 15 oed i weithio fel prentis peirianneg yn Westminster.

Ar ôl cael digon fe ymunodd â'r heddlu gan symud yn ôl fyny i Ogledd Cymru i Fyw.

Fe wnaeth gyfarfod ei ddiweddar wraig Marian, cyn symud gyda'i waith i Lerpwl i wasanaethu llu Glannau Merswy.

Symud nôl i baradwys

Wedi iddo ymddeol fel Prif Uwch Arolygydd fe symudodd yn ôl i fyw i Rhyd-wyn.

Roedd Marian ei wraig yn dioddef o Alzheimers ac mae hi wedi'i chladdu mewn mynwent y thu ôl i gartref presennol John.

"Pan dwi'n codi yn y bore ac yn edrych allan drwy'r ffenest dwi'n gallu gweld bedd Marian, hen dŷ Anti Lissie ac ar ddiwrnod braf dwi'n gweld cartref gwreiddiol Marian.

Wrth edrych yn ôl dros ei fywyd mae pentref Rhyd-wyn wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd ac mae'n falch o gael bod adref yn ei "baradwys."

Pynciau cysylltiedig