Mor ddiolchgar i'm brawd am "rodd gwbl anhygoel"

Y Parchedig Wyn Thomas sydd newydd dderbyn aren gan ei frawd HuwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Wyn Thomas sydd newydd dderbyn aren gan ei frawd Huw

  • Cyhoeddwyd

"Does gen i ddim geiriau i gyfleu fy niolchgarwch a'm hedmygedd o'm brawd Huw sydd newydd roi aren i fi," meddai'r Parchedig Wyn Thomas.

Ers misoedd mae Wyn Thomas, 42, o Dre-fach yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gwbl ddibynnol ar driniaeth dialysis wedi i'w arennau fethu yn llwyr ym mis Mehefin 2024.

Ym mis Rhagfyr cafodd Wyn, sy'n un o gydlynwyr elusen Tir Dewi ac yn bregethwr gydag enwad yr Undodiaid, ei roi ar restr aros am aren ond ddechrau Awst eleni fe ddaeth yr aren honno gan ei frawd Huw.

"Mae Huw wedi rhoi i mi rodd gwbl anhygoel," meddai Wyn Thomas wrth siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.

"I fod yn onest 'nes i ffindio'r holl beth yn anodd yn emosiynol.

"Mae 'da fi ryw syniad eitha egoistadd fi'n credu mai fi yw'r un sy'n helpu pobol, mai fi yw'r un sydd i fod i sorto pethe mas ac o'n i'n teimlo hi'n anodd ildio a derbyn help.

"Ond allai fyth roi e mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydw i - mae ryw deimlad diymhongar iawn o fod wedi cael y fath rodd - mae e jyst yn arbennig iawn iawn."

Wyn ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Thomas wedi bod yn ddibynnol ar ddialysis ers i'w arennau fethu yn haf 2024

Aeth Wyn Thomas yn sâl gyntaf ychydig dros 10 mlynedd yn ôl ac ers hynny dywedodd ei frawd, Huw, ei fod yn "gwybod y byddai, o bosib, yn rhoi aren iddo rywdro".

"Mae'n anodd iawn i unrhyw un weld aelod o'r teulu yn dioddef anhwylder - mae'n teimlo fel gwylio rhywun yn rhedeg marathon hir a maith a bod hurdles ar y daith.

"Chware teg i Wyn pan mae'r hurdle yn dod mae'n dod i ben â neidio drosti ac os yw e'n cwympo mae'n codi.

"I fi mae e wedi bod yn anodd iawn i wylio'r cyfan ar yr ymylon ac mae wedi bod yn anrhydedd rhoi'r aren iddo," ychwanegodd Huw, 46.

"Ni'n deulu agos ac roedd eraill yn barod i helpu hefyd ond allai'm gweud pa mor falch ydw i o gael helpu Wyn ar filltir ddiwetha' yr hen farathon 'ma."

Huw ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Profiad gwahanol i Huw Thomas, sy'n gweithio yn y GIG, oedd bod yn glaf

Doedd hi ddim yn anodd dod i'r penderfyniad, ychwanegodd Huw, ond roedd yn rhaid iddo ystyried ei deulu a'i ddyletswyddau ei hun.

"Yn amlwg roedd y galon yn dweud 'wrth gwrs' ond roedd y pen yn y man iawn o'r cychwyn cyntaf hefyd a fues i ddim yn hir yn penderfynu.

"O ran y driniaeth dwi ddim yn ffan mawr o nodwyddau - a wedyn sai'n cofio llawer!

"Yn digwydd bod fi'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac wedi arfer cerdded mewn i ysbyty mewn siwt - fel arfer mae gen i rym a phŵer ac o'dd mynd i sefyllfa lle o'n i'n fregus fy hunan yn rhywbeth newydd iawn.

"Ond fe gawson ni ofal arbennig gan bawb yng Nghaerdydd ac mae'n teulu ni wedi bod yn gwbl gefnogol hefyd."

Huw yw'r hynaf o'r ddau frawd - ac mae yna dair chwaerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Huw yw'r hynaf o'r ddau frawd - ac mae yna dair chwaer

Roedd y dyddiau cyntaf yn ddigon anodd i Wyn wedi'r driniaeth ond y peth pwysig oedd bod "y cyfan yn llwyddiannus".

"Ro'n i'n boenus iawn ar y dechrau ond ar yr un pryd ro'dd y cyffro 'na bod yr aren yn gweithio yn cadw fi fynd," meddai.

"Roedd hi'n brofiad newydd i fi cael rywun i rannu'r daith gyda fi - pan o'n i yn yr ysbyty yn ystod y diwrnodau cyntaf ro'dd Huw yn yr ystafell drws nesa' - a wedyn pan a'th Huw adre' ar y dydd Gwener ro'n i'n teimlo'n unig iawn."

Mae Wyn bellach adref hefyd ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd sawl taith i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

"Ond ry'n ni nawr yn gallu edrych 'mla'n at fywyd," meddai Huw.

"Ie croesi bysedd y bydd pethe yn para fel maen nhw," ychwanegodd Wyn.

Bydd cyfweliad y Parchedig Wyn Thomas a'i frawd Huw i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.