Dilyn Cymru i Kazakhstan... y ffordd hir

- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Cymru yng nghanol ei ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 yng Ngogledd America ar hyn o bryd, gyda'r gêm nesaf yn Kazakhstan ar 4 Medi.
Mae hedfan yn uniongyrchol i Kazakhstan yn cymryd dros naw awr, ond bydd llawer o gefnogwyr Cymru'n gorfod hedfan gan stopio unwaith, ddwywaith neu hyd yn oed tair gwaith er mwyn cyrraedd y wlad sy'n ffinio Rwsia, Uzbekistan, Kyrgyzstan a China.
Ond fe ddechreuodd un cefnogwr o Gymru y daith i Kazakhstan yn gynnar iawn. Gadawodd John McAllister ei gartref yn Y Barri, ddydd Mawrth, 29 Gorffennaf, gyda'r bwriad o gyrraedd yr Astana Arena erbyn y gêm yn wythnos gyntaf Medi.
"Gyda Chymru'n chwarae yn Kazakhstan o'n i'n meddwl bod o'n gyfle i wneud rhywbeth 'chydig yn wallgo', ac maen siŵr gen i fod teithio 5,000 o filltiroedd dros dir yn cyfri fel gwallgo' i'r rhan fwya' o bobl!", meddai John.

John yn gadael Y Barri ar ddiwrnod cynta'r daith
Cyflwynydd YouTube
Mae John, sy'n 26 oed, yn dweud ei fod yn hoff o ddogfennu ei anturiaethau pan mae dramor, ac felly mae wedi penderfynu rhoi cynnig ar gynnal sianel YouTube llawn amser. Dywed John fod ei ymdrechion yn dechrau dwyn ffrwyth ac mae bellach yn gwneud arian ohono.
Mae'r daith mae arno ar hyn o bryd yn cyfuno'r ddau beth mae'n angerddol amdano - teithio a phêl-droed.
"Dwi'n gefnogwr pêl-droed ers blynyddoedd maith, ac yn dilyn Cymru ers o'n i yn yr ysgol. Roedd gweld Cymru'n curo Gwlad Belg 1-0 yn 2015 yn un o fy hoff nosweithiau i erioed pan o'n i'n tyfu fyny!
"Tua saith neu wyth mlynedd yn ôl nes i ddechrau dilyn Y Barri, gan fynd i'w gweld nhw'n chwarae bob wythnos, ac maen un o'r penderfyniadau gorau imi wneud erioed.
"Mae gwylio gemau Uwchgynghrair Cymru wedi trawsnewid fy mherthynas i gyda phêl-droed, er gwell. Dwi wedi cael perthynas agosach gyda'r gamp. Mae'r pobl sy'n cynnal y clybiau a'r awyrgylch yno wedi rhoi gwerthfawrogiad newydd i mi o sut mae'r gêm yn gweithio."

John yn mwynhau peint tra'n teithio
Mae John wedi bod yn teithio ers mis bellach, ac wedi pasio drwy nifer o wledydd ar y daith.
"Un o'r rhesymau 'nes i ddewis gwneud hyn oedd er mwyn cael y cyfle i fynd i wledydd newydd i mi, a gwledydd ychydig bach yn wahanol.
"Mae'r daith hyd yn hyn wedi bod yn anarferol, achos 'nes i osgoi Gorllewin Ewrop a mynd yn syth i'r Balkans. O'n i yn Slofenia am rai dyddiau, wedyn drosodd yn Croatia, ble 'nes i ddewis mynd i lefydd gwahanol ac osgoi'r arfordir a mynd Osijek a dinas Vukovar, sydd dal yn teimlo sgil-effeithiau'r rhyfel yn y 90au."
"Mi roedd y dyddiau 'ma'n eithriadol o ddiddorol ac 'nes i fwynhau yn fwy nag os fyswn wedi bod yn gorwedd yn yr haul yn Split neu Dubrovnik."
Gadawodd John Croatia a theithio am y dwyrain.
"Es i yn fy mlaen i Serbia, ble nes i lwyddo i weld gemau Partizan Belgrade a Red Star Belgrade yn yr un penwythnos! O'dd hyn 100% yn un o'r uchafbwyntiau'r trip hyd yn hyn!"

John yn Stadion Partizan, cartref clwb Partizan Belgrade
Aeth John allan o Ewrop gan groesi'r Bosphorus i Asia.
"Es fewn i Twrci, a fy mhrofiad cyntaf yn y wlad oedd gêm ganol wythnos rhwng Fenerbahçe a Feyenoord yn Instanbul mewn gêm ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
"Mae Istanbul yn ddinas anhygoel, ond mae natur ansefydlog yr arian yno'n ei gwneud hi ychydig yn anodd i ymwelwyr o ran costau. Er hyn 'nes i ffeindio'r ddinas yr un mor hudolus ag y gwnes i y tro cyntaf imi fynd yno."
Gadawodd John Istanbul gan edrych unwaith eto tua'r dwyrain, y tro hwn i Georgia.
"Ar ôl gadael Istanbul 'nes i benderfynu byddai'n dda teithio ar draws dwyrain y wlad ar drên, a gymerodd tua 36 awr i gyd - 'nath y rhamantydd ynof i benderfynu ar y siwrne dros nos ar drên yn hytrach na'r ochr ymarferol.
"'Nes i hefyd wneud llanast o'r bwcio ac o'dd rhaid fi dreulio 24 awr mewn cadair fach yn hytrach na gwely ar y trên!"

John gyda rhai o gefnogwyr Fenerbahçe yn Instanbul
Mae John wedi cyrraedd Kazakhstan erbyn hyn - daeth fewn i ochr orllewinol y wlad, ond mae bellach yn y de-ddwyrain, yn ninas fwyaf y wlad, Almaty.
"Rwy' wedi treulio'r dyddiau diwethaf yn croesi Kazakhstan. Dechreuais yn ninas Atyrau ac fe deithiais ar hyd y wlad i Almaty, ble rydw i nawr.
"Dros yr wythnos nesaf byddaf yn gwneud fy ffordd lan i Astana, gan fwynhau'r holl bethau sydd gan Kazakhstan i'w gynnig, ac yna'n cyrraedd mewn digon o amser ar gyfer y gêm yn Astana mewn wythnos!"

Astana Arena, ble fydd Cymru'n herio Kazakhstan ar 4 Medi
Mae John yn edrych 'mlaen i brofi diwylliant y Kazaks, sy'n cyfuno sawl agwedd - Ewropeaidd, Asiaidd, modern, hynafol, diwydiannol, nomadaidd, Mwslimaidd ac amlddiwylliannol.
"Dwi'n edrych mlaen i fynd fewn i Kazakhstan go iawn dros yr wythnos nesa! Mae'n rhywle sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i fi ers tipyn, ac mae o ar bucket list nifer o gefnogwyr Cymru.
"Y gobaith ydi bo' fi'n cyrraedd Astana tua 2 Medi, mewn da bryd cyn y gêm ar 4 Medi.
"Dwi 'di mwynhau'r trip hyd yn hyn yn eithriadol, ond dwi ddim am ruthro fewn i drip arall tebyg i hwn yn fuan."
Er iddo fwynhau mae John yn dweud bod sawl agwedd o'r daith wedi bod yn heriol.
"Mae 'na angen i gadw at gynllun yn gyson yn ymwneud â theithio, ac mae golygu'r fideos wedi bod yn her ar brydiau. Dwi'n meddwl bod dulliau mwy hamddenol o deithio yn fy siwtio i'n well."
Y gobaith ydi y bydd ymdrech John yn cael ei haeddiant ar ddechrau mis Medi pan fydd carfan Craig Bellamy'n anelu am fuddugoliaeth yn Astana.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Awst