Cwpan FA Lloegr: Harrogate 2-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Danilo OrsiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Danilo Orsi yn sicrhau buddugoliaeth i Harrogate yn erbyn Wrecsam ddydd Sadwrn

Fe roddodd Cwpan yr FA brynhawn Sadwrn gyfle i Wrecsam chwarae Harrogate sydd un gynghrair yn uwch na'r Dreigiau ond y tîm cartref oedd yn fuddugol.

Er eu bod yn chwarae oddi cartref roedd y cochion yn hyderus ac o gic gosb a thrwy gymorth Aaron Hayden rhwydodd Jordan Ponticelli i Wrecsam ar ôl 38 munud.

Cafodd Wrecsam ambell gyfle da yn yr ail hanner, ond heb lwyddiant. Fe gostiodd hynny yn ddrud iddynt oherwydd ar ôl 73 munud fe sgoriodd Harrogate gydag ergyd o du allan i'r blwch cosb gan Simon Power.

Yna ymhen pedair munud wedi camgymeriad gan Young fe sgoriodd Danilo Orsi eto o du allan y blwch cosb a rhoi'r tîm cartref ar y blaen.

Er i Wrecsam bwyso'n drwm tua diwedd y gêm, ni ddaeth y gôl a dyna ddiwedd taith Wrecsam yng Nghwpan FA Lloegr.