Apêl wedi i yrrwr ffoi ar ôl taro plant yn Y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i gerbyd beidio â stopio ar ôl taro tri o bobl - dau ohonynt yn blant ifanc - yn Y Fflint.
Bu'n rhaid i'r plant gael triniaeth ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Halkyn toc wedi 19:00 ar nos Wener, 29 Hydref.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod y gweithio i adnabod y cerbyd.
Maen nhw'n galw ar y gyrrwr ac unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw, yn enwedig gyrwyr Nissan Micra a Ford Kuga oedd yn gyrru i'r cyfeiriad arall pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.