Apêl ar ôl darganfod corff mewn car ar dân yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn car oedd ar dân ar ffordd yn Eryri.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad o ffrwydrad swnllyd a char ar dân ar yr A498 ger Nant Gwynant toc cyn 14:00 brynhawn Llun, 2 Hydref.
Cafodd corff ei ddarganfod wrth olwyn y car.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ceisio adnabod y corff a chadarnhau amgylchiadau'r digwyddiad.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y ffrwydrad neu'r car cyn y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021