Arestio tri ar amheuaeth o gaethwasiaeth fodern yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau caethwasiaeth fodern mewn cysylltiad â gwesty yn Llandudno.
Dywedodd un gweithiwr ei bod hi'n cael ei gorfodi i fyw mewn cwpwrdd heb gyfleusterau ymolchi.
Cafodd tri o ddynion eu harestio ar 3 Tachwedd ar amheuaeth o orfodi pobl i weithio a masnachu pobl.
Mae dwy ddynes yn eu 30au wedi eu diogelu ac mae ymchwiliadau'n parhau.
'Byw mewn cwpwrdd'
Dywedodd y ddwy weithiwr wrth yr Awdurdod Gangiau a Chamdrin Gwaith (GLAA) eu bod yn cael eu talu £250 y mis am hyd at 60 awr o waith yr wythnos mewn gwesty yn Llandudno.
Dywedon nhw eu bod dan gyfarwyddyd i ddweud celwydd am eu horiau gwaith, a byddai dau o'r rheiny gafodd eu harestio yn ymweld â'r gwesty i asesu eu gwaith.
Yn ôl un, bu'n rhaid iddi fyw mewn cwpwrdd.
Mae'r ddwy bellach yn derbyn cymorth arbenigol.
Cafodd tri dyn eu harestio; dyn 46 oed yn Newcastle-under-Lyme, dyn 21 oed yn Stoke-on-Trent, a dyn 36-oed yn Llandudno, a'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Mae'r heddlu yn annog pobl i fod yn ymwybodol o arwyddion caethwasiaeth fodern, sydd yn cynnwys oriau hir, gwarchod gweithwyr, diffyg eiddo personol, diffyg bwyd, a cham-drin.