Colled o £1m i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn sgil Covid

  • Cyhoeddwyd
FAWFfynhonnell y llun, faw/Lewis Mitchell

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru golled o dros £1m yn y flwyddyn ariannol hyd at 2020, yn ôl cyfrifon sydd newydd eu cyhoeddi.

Mae'r cyfnod yn cynnwys dechrau'r pandemig pan fu'n rhaid canslo nifer o gemau cartref a phencampwriaeth Euro 2020.

Roedd yr union golled ar ôl treth yn £1.032m - y flwyddyn flaenorol roedd y gymdeithas wedi gwneud elw o£264,520.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed ei bod yn hyderus y bydd arian wrth gefn (£8.9m ym Medi 2021) yn gallu talu am y ddyled.

Fe gafodd cefnogwyr hawl i wylio Cymru yn chwarae yn erbyn Albania ym mis Mehefin 2021 ond roedd yna gyfyngiadau llym. Ers dechrau tymor 2021-22 mae tyrfa lawn yn gallu mynd i gemau.

Ym mis Hydref 2020 dywedodd prif weithredwr y gymdeithas ar y pryd Jonathan Ford bod pêl-droed yng Nghymru yn wynebu "sefyllfa arswydus" wrth i gyfyngiadau atal cefnogwyr rhag mynychu gemau.

Cafwyd grantiau yn ddiweddarach gan gorff rheoli pêl-droed FIFA, y Loteri Cenedlaethol ac yn ogystal cafwyd pecyn cymorth o £1.5m gan Lywodraeth Cymru.

Roedd cynllun Llywodraeth y DU i gadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws hefyd wedi helpu'r gymdeithas.

Mae cyfrifon diweddar yn dangos bod rhan fwyaf o incwm y gymdeithas yn dod o refeniw darlledu (£6.36m), doedd y pandemig ddim wedi cael effaith ar gytundebau cynharach.

Mewn adroddiad a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau dywed y Gymdeithas Bêl-droed ei bod yn hyderus y byddai gemau'r Ewros a chwaraewyd rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021 yn dod ag arian i'r coffrau.