'Cymru'n achosi datgoedwigo a cholled cynefinoedd tramor'
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd "ysgytiol" wedi datgelu effaith mewnforion Cymru o nwyddau fel soi, olew palmwydd a chig eidion ar ddatgoedwigo a cholli cynefinoedd dramor.
Wedi'i weld gan BBC Cymru yn unig, mae'r astudiaeth gyntaf o'i math wedi arwain at addewidion i weithredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae elusennau amgylcheddol wedi cyfrifo fod ardal 40% maint Cymru yn cael ei defnyddio i dyfu llond llaw o nwyddau allweddol.
Mae wedi arwain at alwadau am newid targedau newid hinsawdd i ystyried effaith y nwyddau rydyn ni'n mewnforio.
Mae'r astudiaeth yn ganlyniad o waith ar y cyd gan elusennau WWF Cymru, Maint Cymru ac RSPB Cymru.
Mae'n dangos bod bron i draean o'r tir sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu llond llaw o fewnforion Cymreig allweddol - gan gynnwys pren, lledr a phapur - mewn gwledydd sydd â risg uchel o ddatgoedwigo, colli cynefinoedd ac ecsploetiaeth gymdeithasol.
Mae allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chlirio coedwigoedd i ddarparu mewnforion Cymraeg o soi, coco, palmwydd a rwber yn cyfateb i bron chwarter allyriadau trafnidiaeth Cymru bob blwyddyn.
Defnyddir ardal bum gwaith maint dinas Casnewydd mewn gwledydd tramor i dyfu soi i Gymru - llawer wedi'i fewnforio fel porthiant ar gyfer dofednod a gwartheg godro.
Dywedodd yr elusennau fod dinasyddion Cymru yn cyfrannu'n anuniongyrchol at ddatgoedwigo trwy fwyta cig sy'n cael ei fwydo ar "soi risg-uchel".
Peryglu gwledydd â risg uchel o ddatgoedwigo
Yn y cyfamser, bob blwyddyn mae Cymru'n defnyddio arwynebedd tir dramor maint y Bannau Brycheiniog i gynhyrchu'r galw am gig eidion wedi'i fewnforio - yn aml mewn prydau parod rhad.
Mae dros chwarter (26%) yn cwympo mewn gwledydd sydd â risg uchel o ddatgoedwigo ac ecsbloetio cymdeithasol.
Defnyddir mwy o dir ym Mrasil, er enghraifft, i gynhyrchu cig eidion i Gymru o'i gymharu â gweddill y DU oherwydd lefelau uwch o fwyta corn-bîff yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn galw ar y Senedd i gefnogi a chymell ffermwyr trwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i fabwysiadu arferion ffermio sy'n gyfeillgar i natur ac i'r hinsawdd, ac sydd ddim yn dibynnu ar borthiant wedi'i fewnforio.
Maen nhw hefyd yn annog Strategaeth Bwyd Cymunedol sy'n gyrru ac yn gwobrwyo "cadwyni cyflenwi Fferm i'r Fforc" cynaliadwy.
Yn ôl yr elusennau, maen nhw am i lywodraethau Cymru a'r DU weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cytundebau masnach newydd ar ôl Brexit yn gwarantu safonau amgylcheddol a chymdeithasol uchel.
Ac o gofio bod targedau i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyrraedd sero net yng Nghymru ond yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar allyriadau domestig, mae ymgyrch i gyfrif ac adrodd y rhai a achosir gan ein defnydd o nwyddau sy'n cael eu mewnforio.
Dywedodd Shea Buckland-Jones, Rheolwr Polisi Bwyd, Defnydd Tir a Natur WWF Cymru bod "yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma yng Nghymru yn cael effaith drychinebus ar goedwigoedd a chynefinoedd y byd.
"Rydyn ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud ac mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o'r atebion. Mae'n rhaid i Gymru weithredu nawr trwy newid sut rydyn ni'n prynu, bwyta a buddsoddi."
'Cyfle i Gymru arwain'
Dywedodd Barbara Quy-Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr elusen Maint Cymru fod COP26 yn "gyfle i Gymru ddangos arweinyddiaeth fyd-eang ar y mater hwn a chymryd camau beiddgar.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i ysgogi newid cadarnhaol yn ein cadwynau cyflenwi ac ymrwymo i gynnwys targedau di-ddatgoedwigo yn holl wariant y sector cyhoeddus.
"Mae hyn yn golygu, er enghraifft, sicrhau nad yw ein hysgolion a'n hysbytai yn gweini bwyd a allai fod yn achosi dinistr i goedwigoedd gwerthfawr, fel yr Amazon."
Yng nghytundeb mawr cyntaf uwch-gynhadledd COP26 yr wythnos diwethaf, addawodd mwy na 100 o arweinwyr y byd i ddod â datgoedwigo i ben a'i wrthdroi erbyn 2030.
Roedd y DU ymhlith llofnodwyr y fargen, ond mae angen gweithredu ynghynt, meddai'r elusennau.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod bron i 20% o goedwig law'r Amazon wedi'i cholli eisoes ac os collir 5% arall, maent yn rhybuddio y gallai sbarduno pwynt anghildroadwy lle na fydd yr Amazon bellach yn gallu cynnal ei hun fel coedwig law drofannol.
Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, bod yr adroddiad yn un "ysgytwol".
"Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i leihau a gobeithio dileu ein hôl troed dramor yn ogystal â gartref."
"Rwy'n hollol benderfynol o newid polisïau caffael y llywodraeth fel y gallwn ddechrau'r siwrne. Ond bydd angen i ni siarad â'n holl archfarchnadoedd a phrynwyr eraill ledled Cymru hefyd i gael pawb i ymuno."
Dywedodd Ms James ei bod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o bobl frodorol Wampi ym Mheriw yn y gynhadledd ac "os nad yw hynny'n gwneud i chi fod eisiau sicrhau nad ydych chi'n datgoedwigo'r byd yna dwi ddim yn gwybod beth fyddai.
"Roedden nhw'n dweud wrtha'i am y dinistrio sy'n digwydd i'w tiroedd brodorol, y datgoedwigo, yn gwbl anfwriadol gan bobl nad ydyn nhw wir yn deall yr hyn maen nhw'n ei brynu."
Wrth gyfeirio at newid targedau newid hinsawdd Cymru, dywedodd fod hynny'n rhywbeth yr oedd y Llywodraeth yn gweithio arno ac yn "benderfynol o'i wneud".
Dulliau cynaliadwy'n 'fwy a mwy pwysig'
Un cwmni o Gymru sydd eisoes yn gweithredu yw'r bwyty byrgyr cynaliadwy Ansh yng Nghaerdydd.
Mae'r bwyty wedi cymryd rhan mewn prosiect gyda WWF Cymru a Maint Cymru i edrych ar leihau'r difrod a'r datgoedwigo a achosir gan gynhyrchion sy' n cael eu mewnforio, fel soi, olew palmwydd a chig.
Daw'r holl gig ar gyfer byrgyrs Ansh o'u fferm eu hunain, lle maent yn defnyddio dulliau cynaliadwy ac adfywiol i fagu eu hanifeiliaid.
"Rydyn ni wedi darganfod o adborth cwsmeriaid ei fod yn wirioneddol bwysig, ac yn dod yn fwy a mwy pwysig," meddai'r cogydd Aled Hill. "Nawr ei fod wedi'i amlygu yn y wasg, mae pobl yn fwy ymwybodol o bethau.
"Rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cwestiynu o ble mae cynnyrch yn dod, o ble mae'r cig yn dod, o ble mae'r bwyd yn dod. Oherwydd dych chi ddim yn gwybod a yw rhywbeth rydych chi'n ei brynu yn achosi difrod enfawr dramor ac weithiau hyd yn oed yn agosach at adref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021