Dyn 19 oed yn y llys wedi ymosodiad yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn ei arddegau wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o ymosod a bod â chyllell yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd ddydd Gwener.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd ger marchnad Caerdydd ar Heol Eglwys Fair.
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ond ni chredir bod yr anafiadau yn rhai sy'n peryglu bywyd.
Yn Llys Ynadon Caerdydd fore Llun, fe siaradodd Ivan Ania Hernandez, sy'n 19 oed ac yn dod o ardal Cathays y brif ddinas, ond i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.
Ni chafodd cais ei wneud am fechnïaeth, a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan fod disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 6 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021