900 o bobl yn cyfrannu at adeiladu tyrbin gwynt yn y de

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pontyclun
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tyrbin newydd yn cael ei adeiladu ar safle fferm wynt ym Mhontyclun

Bydd tyrbin gwynt yn cael ei adeiladu yn Rhondda Cynon Taf wedi i dros 900 o bobl fuddsoddi cyfanswm o £2.2m ar gyfer y fenter.

Fe wnaeth 907 o bobl ledled y DU fuddsoddi yn y cynllun, sy'n cael ei adeiladu ym Mhontyclun.

Mae'r prosiect yn gynllun peilot gan gwmni Ripple Energy, oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch godi arian ac a fydd hefyd yn rheoli'r safle.

Y gobaith yw y bydd y tyrbin yn dechrau cynhyrchu ynni yn y flwyddyn newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw y bydd y tyrbin gwynt yn dechrau cynhyrchu trydan yn y flwyddyn newydd

Bydd yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei werthu i gwmni Co-operative Energy, is-gwmni Octopus Energy.

Fe fydd y 907 o bobl sydd wedi buddsoddi yn y prosiect yna'n cael disgownt ar eu hynni nhw.

Mae lefel y gostyngiad yn dibynnu ar faint o ynni mae'r tyrbin yn ei gynhyrchu, prisiau trydan a sawl siâr sydd gan y person yn y cynllun.

Fe wnaeth pobl fuddsoddi tua £2,200 yn y prosiect ar gyfartaledd.

Mae Ripple yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn arbed tua 25% oddi ar filiau ynni'r rheiny sydd wedi buddsoddi, a hynny trwy gydol bywyd 25 mlynedd y tyrbin.

Dywedodd Sarah Merrick o Ripple ei bod yn gobeithio y bydd y math yma o berchnogaeth yn dod yn un cyffredin ar draws Cymru a gweddill y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwilym Pritchard y gallai cynlluniau o'r fath "fod yn berthnasol i sawl ardal yng Nghymru"

Mae'r prosiect yn debyg i rai ynni hydro ym Methesda a Llanberis.

Un o'r rheiny sydd wedi buddsoddi yn y tyrbin gwynt ydy Gwilym Pritchard o Benygroes ger Caernarfon.

Mae eisoes yn cynhyrchu trydan i'w gartref gyda phaneli solar, a dywedodd ei fod wedi buddsoddi ym mhrosiect Ripple er mwyn gallu parhau i gael buddiannau ynni adnewyddadwy trwy'r gaeaf.

"Mae o'n mynd i helpu llenwi'r bwlch 'na pan dydy'r haul ddim yn tywynnu, a dod ag ynni gwynt i ni yn ystod stormydd - alla i eistedd yn yfed paned, yn edrych allan trwy'r ffenest a meddwl 'mae hi'n chwythu ond dwi dal yn cynhyrchu trydan'.

"Mae'n ffordd hefyd o gadw prisiau trydan i lawr i'r dyfodol, hyd oes y tyrbin - sef 20 i 25 mlynedd dwi'n meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwilym Pritchard eisiau parhau i gael buddiannau ynni adnewyddadwy yn ei gartref trwy'r gaeaf

Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £4.12m, gyda Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £1.1m i Ripple.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud pe bai'r cynllun peilot yn llwyddiant y gallai arwain at bobl i allu buddsoddi mewn fferm wynt yng Nghymru.

Ychwanegodd Mr Pritchard: "Dwi'n meddwl ei fod o'n fodel da ar gyfer y dyfodol, a lasa fo fod yn berthnasol i sawl ardal yng Nghymru.

"Mae 'na lot o ardaloedd yng Nghymru sydd yn dlawd, ac mae'r ardaloedd hynny yn benodol weithia' yn addas ar gyfer prosiectau o'r math yma, lle fedar cymunedau lleol gymryd mantais o gael ynni adnewyddol.

"Yn lle bod yr arian yn mynd lawr y wifren fel petai, ei fod yn cael ei gadw'n fwy lleol."