Mam ifanc yn 'dorcalonnus' wedi i lwch ei babi gael ei ddwyn

  • Cyhoeddwyd
Chloe RobinsonFfynhonnell y llun, Chloe Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chloe Robinson ei bod wedi "ddechrau sgrechian" pan sylweddolodd ar y difrod i'r ardal oedd yn coffa ei mab

Mae mam ifanc o Sir y Fflint yn dweud ei bod yn "dorcalonnus" wedi i lwch ei babi gael ei ddwyn o'i fflat yng Nghei Connah mewn lladrad.

Fe wnaeth Chloe Robinson, 22, y darganfyddiad ddydd Sadwrn wedi iddi fod i ffwrdd o'i chartref y noson gynt.

Dywedodd bod ei hystafell wely wedi cael ei "ddifrodi'n llwyr", a bod arian a chlustffonau wedi'u dwyn.

Ond yna fe wnaeth hi "ddechrau sgrechian" pan sylweddolodd fod ardal oedd yn coffáu ei mab wedi cael ei ddifrodi hefyd, gydag eitemau fel cadwyn gyda'i enw arno a llun ohono ar goll.

Yna fe wnaeth Ms Robinson sylweddoli fod bocs oedd yn arfer dal ei lwch yn wag.

Ffynhonnell y llun, Chloe Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chloe Robinson wedi sefydlu ymgyrch godi arian er mwyn ceisio gwneud yn iawn am yr hyn a gollwyd

Cafodd Hunter ei eni yn farw yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan bron i ddwy flynedd yn ôl.

"Mi fyddai wedi bod yn amlwg mai ardal goffa oedd hon - pam fyddai unrhyw un eisiau cymryd llwch babi?" gofynnodd Ms Robinson.

"Dydw i ddim yn gwybod be' dwi 'di wneud i haeddu hyn."

Roedd Ms Robinson wedi bod yn trefnu digwyddiad i nodi dwy flynedd ers marwolaeth Hunter ar 25 Tachwedd, ond cafodd eitemau fel balwnau roedd hi wedi'u prynu ar gyfer yr achlysur eu cymryd hefyd.

Mae hi bellach wedi sefydlu ymgyrch godi arian ar-lein er mwyn ceisio gwneud yn iawn am yr hyn a gollwyd.

Problemau iechyd meddwl

"Ers colli Hunter rydw i wedi cael lot o broblemau iechyd meddwl," meddai Ms Robinson.

"Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol iechyd meddwl yn dweud 'mod i newydd gael fy hun yn ôl ar y trywydd iawn, ond mae hyn wedi chwythu popeth fyny eto."

Dyma'r ail dro i rywun dorri i mewn a dwyn gan Ms Robinson mewn ychydig dros flwyddyn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig