Sut mae mynd ati i gyfansoddi cân?
- Cyhoeddwyd
Ydych chi erioed wedi teimlo'r awydd i drio cyfansoddi ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Er mwyn eich helpu mae'r cerddor Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun, wedi bod yn siarad efo Cymru Fyw am sut mae o'n mynd ati i gyfansoddi.
Ar ôl iddo ennill y Fedal Gyfansoddi yn yr Urdd yn ddiweddar, pwy well i'n dysgu ar sut i greu darn o gerddoriaeth unigryw?
Yn gyntaf oll, pwy ydw i i ddweud wrth rywun sut i gyfansoddi?
Dwi'n ifanc, a byddai'r darnau dwi wedi'i gyfansoddi dros y blynyddoedd ddim yn ddigon i lenwi cyngerdd mae'n siŵr.
Ar ben hyn, roedd hi'n sioc fawr cael gwybod fy mod wedi ennill medal gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd eleni, ac mae hyn wedi gwneud imi feddwl llawer mwy manwl am y broses o ddod fyny gyda melodïau newydd.
O'm mhrofiad i'n cyfansoddi, mae sawl peth i'w hystyried wrth i rywun fynd ati i ysgrifennu eu campwaith cyntaf boed yn gân bop ysgafn, neu'n symffoni hanner awr o hyd.
Dyma bedwar 'top tip' i chi ystyried wrth gyfansoddi cerddoriaeth.
Trefnu Cerddoriaeth
Os ydy eich dychymyg wedi sychu neu eich bod eisiau dod i arfer gyda meddalwedd cyfansoddi, rhowch gynnig ar drefnu caneuon/darnau.
Buan y dewch i ddarganfod bod trefnu cân bop Cymraeg i leisiau merched yn llawer mwy o hwyl nag ysgrifennu aria operatig wreiddiol.
Nid yn unig yw hyn ychydig ysgafnach, ond mae hefyd yn rhoi cyflwyniad i sut mae harmonïau penodol yn edrych ar gopi a sut mae offerynnau/lleisiau'n cydweithio.
Os ydych chi awydd perfformio eich trefniant mewn cyngerdd. fodd bynnag, cofiwch ofyn am hawl y cyfansoddwr/cyhoeddwr gwreiddiol y gân i wneud.
Gwreiddioldeb
Peidiwch â theimlo pwysau bod angen i chi fod yn gwbl wreiddiol yn eich cyfansoddi.
8 nodyn sydd yn y raddfa ar ddiwedd y dydd ac mae ysbrydoliaeth gan gyfansoddwyr eraill o'n cwmpas o hyd. Glywsoch chi am y 'Four Chord Song' erioed?
Mae llwythi o ganeuon sy'n defnyddio'r un pedwar cord (yn y Gymraeg a'r Saesneg), ond y gwahaniaeth rhwng pob cân yw sut mae'r cyfansoddwr/perfformiwr yn mynd ati i ymdrin â'r geiriau a sut ymdeimlad mae'r gân yn ei greu.
Amser
Peidiwch â chyfansoddi jest er mwyn cyfansoddi, YN ENWEDIG os ydych chi'n cyfansoddi i eiriau.
Yn aml iawn mae'r awch yn dod i roi unrhyw gord ffordd-cosa' i lawr fel eich bod chi'n gallu gorffen eich darn cyn gynted â phosib, ond efallai na fyddwch yn cael y canlyniad gorau trwy wneud hyn.
Cymerwch amser i feddwl lle rydych eisiau i'r gerddoriaeth fynd (e.e: os ydych eisiau i'r ymdeimlad fynd i fyny mewn cyffro, neu farw i lawr yn dawelach) ac os ydych chi'n cyfansoddi i eiriau, dadansoddwch y geiriau mor fanwl â phosib fel eich bod yn adnabod lle mae'r odlau, a pha negeseuon cudd sy'n cael eu cynrychioli trwyddynt.
Miwsig i'r enaid
Yn union fel mae profiadau personol yn effeithio ar gymeriad rhywun, dwi'n credu'n fawr fod pethau amrywiol yn effeithio ar sut mae rhywun yn mynd ati i ysgrifennu alawon a chaneuon.
Er enghraifft, cefais i fy magu ar gerddoriaeth Cymraeg fel Robat Arwyn, Cwmni Theatr Maldwyn, a Hogia'r Wyddfa a oedd yn chwarae yn y car neu ar y radio'n gyson. Mae fy arddull i nawr wedi'i ysbrydoli'n fawr gan arddull yr artistiaid uchod ynghyd ag elfennau o arddulliau eraill hefyd.
Mae'n bwysig bod rhywun yn adnabod eu hunaniaeth gerddorol wrth gyfansoddi ond heb ddynwared arddulliau eu hoff artistiaid yn ormodol.
Wrth gyfansoddi o hyn ymlaen felly, cofiwch gadw'r pedwar peth yma yn eich meddwl. Mae llawer o bwyslais y dyddiau hyn am wreiddioldeb a safon mewn cerddoriaeth, ond cadwch at beth sy'n bersonol i chi, dim ond wedyn all pobl weld beth sy'n bwysig i chi yn gerddorol!