Gyrwyr bws Arriva i fynd ar streic yn y gogledd o ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Bydd dim bysus Arriva yn rhedeg yn y gogledd o fore Sul ymlaen yn dilyn cadarnhad y bydd gyrwyr yn mynd ar streic pum wythnos o hyd.
Yn ôl undeb Unite, methodd y cwmni gyflwyno "cynnig ystyrlon" i'r gweithwyr mewn trafodaethau cyflog munud olaf ddydd Gwener.
Maen nhw'n dweud bod gyrwyr mewn ardaloedd eraill yn cael gwell tâl am wneud yr un swydd.
Dywedodd Bysiau Arriva Cymru eu bod yn "hynod siomedig" a'u bod wedi "gweithio'n ddiflino i osgoi'r streic".
Asgwrn y gynnen yw'r gwahaniaeth rhwng y cyflog mae gyrwyr yn y gogledd yn ei gael, o'i gymharu â'u cydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae Unite yn dweud bod gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr yn ennill tua £1.80 yn fwy yr awr, a bod y codiad cyflog a gynigwyd i yrwyr yng Nghymru hefyd yn llai.
Tua 400 i fynd ar streic
Pan ddaeth y trafodaethau munud olaf i ben ddydd Gwener, dywedodd Unite bod eu haelodau "yn barod i frwydro am y cyflog teg maen nhw'n ei haeddu".
Roedd 95% o'r aelodau hynny eisoes wedi pleidleisio o blaid gweithredu.
Mae'n golygu bydd tua 400 o bobl ar streic, gan effeithio ar ganolfannau'r cwmni yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, Y Rhyl a Wrecsam.
Cadarnhaodd Arriva nos Wener na fydd gwasanaethau'n rhedeg yn y gogledd tra bydd y streic yn mynd rhagddo.
'Gwaith diflino' i osgoi streic
Dywedodd llefarydd eu bod wedi cyflwyno "sawl cynnig gwell" i'r undeb, a fyddai wedi codi cyflogau i £12 yr awr yn 2022.
"Rydym ni wedi gweithio'n ddiflino i osgoi'r streic hon, a dyna pam ein bod ni wedi cyflwyno cynigion newydd yn gyson, tra fo'r undebau llafur yn gwrthod trafod," meddai.
Ychwanegodd eu bod yn annog yr undeb i ganslo'r streic a pharhau i drafod gyda'r cwmni drwy gymorth y canolwyr, ACAS.
Ond bwriad y gyrwyr yw cychwyn eu streic am 06:00 dydd Sul, a gallai bara tan 01:00 ar 19 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2021