Y Gynghrair Genedlaethol: King's Lynn 2-6 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe roddodd Wrecsam gweir i King's Lynn ar eu tomen eu hunain gan eu curo o chwe gôl i ddwy.

Roedd hynny er i King's Lynn sgorio gyntaf - gôl gan Michael Clunan wedi 12 o funudau - ond fe wnaeth peniad Aaron Hayden unioni'r sgôr 10 munud yn ddiweddarach.

Wedi'r egwyl, fe roddodd Jordan Davies (52) Wrecsam ar y blaen cyn i Paul Mullin (63) a Jordan Ponticelli (76) ymestyn y fantais.

Sgoriodd Malachi Linton (86) i leihau'r bwlch ond gôl gysur oedd hi i'r tîm cartref yn y pen draw, cyn i Dan Jarvis (90) a Cameron Green (90+4) selio'r fuddugoliaeth.

Dyma'r tro cyntaf ers dechrau'r tymor i Wrecsam ennill dwy gêm yn olynol yn y gynghrair, ar ôl curo Aldershot 5-0 ganol yr wythnos.

Maen nhw'n parhau yn nawfed safle'r table, driphwynt islaw safleoedd y gemau ail gyfle, tra bo King's Lynn yn llithro un i'r 22fed safle ac ardal y cwymp.