Achub tri pherson yn eu 90au wedi tân ger Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Tŷ ar dânFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y tân yng nghegin yr adeilad

Mae diffoddwyr wedi rhybuddio ynglŷn â diogelwch wrth goginio ar ôl i dri o bobl oedrannus gael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân difrifol mewn tŷ brynhawn Sul.

Ar un adeg roedd chwech o griwiau Gwasanaeth Tân y Gogledd yn ceisio diffodd y tân ym Mhandy ger Llangollen, wedi iddynt gael eu galw oddeutu 16:15.

Fe gafodd tri o bobl yn eu 90au eu cludo i'r ysbyty wedi iddynt gael eu tywys o'r tŷ yn ddiogel gan gymydog - mae dau yn parhau i gael profion.

Bu'n rhaid cau yr unig ffordd i'r dyffryn am gyfnod.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, dechreuodd y tân yng nghegin yr adeilad cyn lledaenu.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gweddillion y tŷ wedi'r tân

Dywedodd Steve Houghton, un o ddiffoddwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r difrod ofnadwy yn dangos yr effaith y gall tân ei gael.

"Dro ar ôl tro 'da ni'n diffodd tanau sydd wedi dechrau yn y gegin - mae mor hawdd anghofio am eich coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, wedi bod yn yfed neu os oes rhywbeth arall yn mynd â'ch sylw.

"Mae ein neges yn glir - peidiwch â gadael eich coginio, hyd yn oed am funud.

"Mae ei adael am unrhyw gyfnod o amser yn gallu arwain at ganlyniadau echrydus."

Pynciau cysylltiedig