Carcharu dynes am bedair blynedd am ladd babi yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Eva Maria NichiforFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eva Maria Nichifor yn teithio yn y car arall

Yn Llys y Goron Abertawe mae dynes wedi ei charcharu am bedair blynedd wedi i ferch chwe mis oed gael ei lladd mewn gwrthdrawiad.

Clywodd y llys bod Lucy Dyer, 23, yn feddw a'i bod hi wedi gyrru i ochr car Vauxhall Vectra wedi iddi fethu ag aros ar groesffordd yn Llanelli ym mis Hydref.

Roedd Eva Maria Nichifor yn teithio yng nghefn y Vectra pan gafodd anafiadau angheuol.

Yn y llys ddydd Llun fe wnaeth Dyer bledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol.

Mae hi hefyd wedi ei gwahardd rhag gyrru am bum mlynedd a'i gorchymyn i gymryd prawf gyrru estynedig.

Dywedodd Emma Myles o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae hwn yn achos torcalonnus sydd wedi cael effaith andwyol ar bawb oedd yn gysylltiedig ag ef.

"Cafodd bywyd babi ei ddirwyn i ben pan oedd e newydd gychwyn ond yn ystod ei bywyd byr roedd Eva Maria yn gannwyll llygaid ei rhieni ac mae ei cholli yn anfesuradwy. Ry'n yn meddwl am deulu Eva Maria.

"Fe fydd yn rhaid i Lucy Dyer, sydd yn fam ei hun, fyw gyda chanlyniadau ei gweithredoedd am weddill ei bywyd."

Clywodd y llys bod Dyer a pherthynas iddi wedi bod yn yfed yn nhafarn Carwyn James ar Ffordd yr Orsaf, Llanelli a bod y ddau ar eu ffordd adref pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 8 Hydref 2021. Wrth iddi yrru tuag at groesffordd Heol Goffa fe fethodd Dyer ag aros.

Cafodd Eva ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd a'i throsglwyddo'n syth i'r theatr ond bu farw y prynhawn canlynol wedi i ymchwiliadau ddangos ei bod wedi cael nam ar ei hymennydd a'i bod angen cymorth cynnal bywyd.

Cafodd Dyer ei harestio ac yn ddiweddarach dangosodd prawf bod 46 microgram o alcohol am bob 100 mililitr yn bresennol yn ei hanadl - y cyfyngiad cyfreithiol yw 35 microgram.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu bod swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'r teulu wedi'r digwyddiad

Mae rhieni Eva Maria, Florin a Carmen yn hanu o Romania ac roeddent yn gwrando ar yr achos oddi yno brynhawn Llun.

Mewn datganiad, dywedodd y ddau eu bod nhw'n gyrru am fwyd têc-awe ar y noson dan sylw - rhywbeth a oedd yn arferol iddyn nhw ei wneud ar nosweithiau Gwener.

"Mae ein bywydau wedi chwalu," meddai mam Eva Maria, Carmen. "Ble bynnag ry'n ni'n edrych yn ein cartref - ry'n ni'n ei gweld hi. A'r hyn ry'n ni'n ei ddymuno heddiw, yw cyfiawnder i'n plentyn bach."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli

Pynciau cysylltiedig