Person yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi i ddau gar wrthdaro ar yr A483 yn Wrecsam nos Lun.
Bu'n rhaid i ymladdwyr tân dorri'r person yn rhydd o gar yn dilyn y gwrthdrawiad ar gylchfan Croesfoel yn Rhostyllen.
Cafodd dau griw tân o Wrecsam eu galw i'r digwyddiad am 18:10.
Mae rhan o'r ffordd i'r de oddi ar y cylchfan yn parhau ar gau, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.