Erthygl 16: Drakeford yn rhybuddio y byddai Cymru'n dioddef

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cyngor Prydeinig-GwyddeligFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr uwchgynhadledd ei chynnal yn Sain Ffagan ddydd Gwener

Byddai masnach Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dioddef pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu atal rhannau o gytundeb Brexit, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Daw ei sylwadau wedi i uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig gael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Roedd Mr Drakeford yn croesawu Prif Weinidog Iwerddon, Michael Martin, ac Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y DU Michael Gove, yng nghanol anghytundebau parhaus ynglŷn â bargen Brexit Gogledd Iwerddon.

Roedd prif weinidogion Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cymryd rhan, yn ogystal ag arweinwyr Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.

Dywedodd Mr Gove ei fod yn "hyderus" y gellir symud ymlaen yn y trafodaethau ac na fyddai angen i'r UE ddefnyddio Erthygl 16.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nwyddau sy'n cyrraedd Gogledd Iwerddon o weddill y DU bellach yn destun gwiriadau

Mae'r erthygl yn galluogi i'r DU neu'r UE atal unrhyw ran o'r cytundeb ymadael os ydyn nhw'n credu fod y cytundeb yn creu problemau ymarferol difrifol.

Ond pe bai'r DU yn gwneud hynny fe allai'r UE gynyddu tollau ar fasnach o Brydain fel ymateb.

'Gwneud sefyllfa anodd yn waeth'

Wedi'r cyfarfod dywedodd Mr Drakeford ei fod yn falch o glywed sylwadau Mr Gove.

"O safbwynt Cymreig ry'n ni'n eglur iawn - byddai defnyddio Erthygl 16 yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth, nid gwell," meddai.

Ychwanegodd y byddai hynny hefyd yn "cyflwyno cymhlethdodau newydd wrth geisio masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd"

"Mae rhan fwy o'n hallforion yn mynd i'r UE nac unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig," meddai Mr Drakeford.

"Fe fydden ni yn enwedig yn dioddef pe bai'r berthynas fasnachu yn gwanhau, a dyna pam nad ydyn ni eisiau gweld Erthygl 16 yn cael ei defnyddio."