Y Bencampwriaeth: Preston North End 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i droi'r gêm ar ei phen yn yr ail hanner yn erbyn Preston, wrth i'w perfformiadau gwell dan arweinyddiaeth Steve Morison barhau.
Cafodd yr Adar Gleision y dechrau gwaethaf posib wrth i'r tîm cartref fynd ar y blaen o fewn dau funud gyda gôl gan Sean Maguire.
Ond fe lwyddodd Caerdydd i daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner, gyda pheniad Mark McGuinness o gic rydd Will Vaulks yn canfod cefn y rhwyd, funudau'n unig wedi i'r Cymro daro'r trawst.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 66 munud wedi i James Collins sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb gyda pheniad arall.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn codi i'r 19eg safle yn y Bencampwriaeth, tri phwynt yn uwch na safleoedd y cwymp.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021