Arestio tri wedi i ddyn farw ar ôl cael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio wedi i ddyn 63 oed farw ar ôl cael ei daro gan gar ger Abergele nos Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu na wnaeth y car stopio yn dilyn y digwyddiad, ond fod y cerbyd wedi'i leoli yn fuan wedi hynny a bod y tri wedi'u harestio.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A548 ym Mhensarn am 21:40 nos Sadwrn, yn dilyn adroddiadau fod cerddwr wedi cael ei daro gan BMW du.
Fe gafodd y dyn lleol 63 oed ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad, neu unrhyw un sydd â fideo dash-cam o'r BMW cyn y digwyddiad, i gysylltu â nhw.