Cadarnhau enw dyn fu farw yng ngwrthdrawiad Pensarn

  • Cyhoeddwyd
Blodau yn ardal y gwrthdrawiad ym Mhensarn
Disgrifiad o’r llun,

Blodau er cof am Ieuan Richard Williams yn ardal y gwrthdrawiad ym Mhensarn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw dyn lleol a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar ger Abergele dros y penwythnos.

Roedd Ieuan Richard Williams yn 63 oed ac yn byw yn ardal Pensarn.

Cafodd tri pherson eu harestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A548 ym Mhensarn nos Sadwrn.

Mae'r tri - dyn 22 oed o Highbridge, Gwlad yr Haf, a dau ddyn 19 ac 18 oed o'r Rhyl - wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

Mae teulu Mr Williams wedi mynegi eu diolch i'r cyhoedd ac i'r gwasanaethau brys a ymatebodd wedi'r gwrthdrawiad, gan ofyn i bobl barchu eu preifatrwydd.

"Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu a chyfeillion Mr Williams yn y cyfnod anodd yma," meddai'r Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

"Rydym yn parhau i apelio am dystion a hoffwn siarad gydag unrhyw un allai fod wedi gweld car BMW du'n teithio o'r Rhyl tua Phensarn rhwng 21:30 a 21:40."

Mae'r llu hefyd eisiau clywed gan unrhyw un sydd mewn sefyllfa i gynnig lluniau dash-cam neu CCTV.

Pynciau cysylltiedig