Dyn yn cyfaddef lladd ym Mhen-y-Cae, Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi cyfaddef lladd dyn arall 57 oed ym Mhen-y-Cae, Wrecsam ym mis Awst.
Bu farw Karl Saffy, o ardal Cristionydd yn y pentref, ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn cythrwfl ar ddydd Llun, 23 Awst.
Roedd Luke Williams yn gwadu llofruddiaeth, ond yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth fe blediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Roedd Williams wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ynghyd a'i dad, David Williams, 52 oed, ond fe ddywedodd yr erlyniad wrth y llys bod yr achos yn erbyn y tad wedi ei ollwng, a'i fod wedi cael ei ryddhau.
Fe wnaeth y barnwr Rhys Rowlands ohirio'r gwrandawiad ar gyfer paratoi adroddiadau a datganiadau gan deulu Mr Saffy cyn y dedfrydu.
Fe fydd Luke Williams yn cael ei ddedfrydu ym mis Ionawr. Mae wedi ei gadw yn y ddalfa, gyda'r barnwr yn dweud y byddai ei ddedfryd o garchar yn cael ei lleihau yn sgil y ffaith ei fod cyfaddef lladd Karl Saffy.
Fe wnaeth y barnwr hefyd gydymdeimlo â theulu Mr Saffy, gyda rhai ohonyn nhw yn bresennol yn y llys.
Mewn datganiad blaenorol roedd y teulu wedi rhoi teyrnged i Mr Saffy gan ei ddisgrifio fel gŵr, tad, brawd a thad oedd yn cael ei garu'n fawr, ac a fyddai'n cael ei golli'n fawr gan lawer.