Teyrnged i ddyn fu farw yng ngwrthdrawiad Pensarn
- Cyhoeddwyd
Mae merch dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Conwy y penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Ieuan Richard Williams wedi'r digwyddiad ar yr A548 ym Mhensarn, ger Abergele nos Sadwrn.
Roedd yn 63 oed ac yn byw ym Mhensarn.
Dywedodd ei ferch Elize bod ganddi "gymaint o atgofion annwyl, atgofion sy'n gwneud imi wenu a rhai sy'n gwneud i mi wgu" ond y bydd ei thad "yn fyw cyn belled ag yr ydw i'n byw".
Gan gyfarch ei thad yn uniongyrchol, dywedodd ei bod yn "gobeithio bod yna siop cebab i fyny yna i ti a pheint da".
Ychwanegodd: "Rwy'n dy garu di gymaint a wna'i byth dy anghofio, na dy ben moel a dy ddannedd doniol - neu'r diffyg dannedd, fel roeddan ni'n arfer cellwair.
"Gorffwys mewn hedd, Dad - byddi di yn fy meddyliau am byth."
Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau ac mae ditectifs yn dal yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd gar BMW du'n teithio o'r Rhyl tua Phensarn rhwng 21:30 a 21:40 nos Sadwrn, 20 Tachwedd.
Cafodd tri pherson - dyn 22 oed o Highbridge, Gwlad yr Haf, a dau ddyn 19 ac 18 oed o'r Rhyl - eu harestio wedi'r gwrthdrawiad a'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021