Rhaid gwella'r ffyrdd rhwng Cymru a Lloegr, medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae gwella'r ffyrdd a'r trenau rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ymhlith argymhellion adolygiad trafnidiaeth i Lywodraeth y DU.
Mae adroddiad Syr Peter Hendy hefyd yn galw am uwchraddio'r M4 ac ychwanegu gorsafoedd at brif reilffordd de Cymru.
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio "ar y cyd" ar y cynigion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hi i fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
'Dosbarthu ffyniant yn fwy cyfartal'
Dechreuodd Syr Peter Hendy ar ei waith ym mis Hydref 2020, gyda'r nod o adolygu ansawdd ac argaeledd seilwaith trafnidiaeth ledled y DU.
Cafodd ei adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, ond cyn hynny fe wnaeth Llywodraeth y DU amlinellu rhai o'r prif argymhellion.
Tra bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ffyrdd, mae cynigion Syr Peter Hendy i Gymru yn cynnwys adolygiad o gysylltiadau rhwng gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr.
Mae'n awgrymu gwella cysylltedd rheilffyrdd â HS2, ynghyd ag uwchraddio'r A55, yr M53 a'r M56 a hwyluso teithio i Iwerddon trwy ogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson: "Rhaid i ni gryfhau'r cysylltiadau rheilffyrdd a ffyrdd ledled Cymru os ydyn ni wirioneddol am uwchraddio'r DU - gwella cysylltedd trefi a dinasoedd Cymru a dod â chymunedau yn agosach at ei gilydd.
"Byddwn nawr yn edrych ar adolygiad Syr Peter Hendy, a thrwy weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn hybu cysylltiadau trafnidiaeth allweddol a fydd yn darparu ar gyfer pobl a busnesau Cymru ac yn dosbarthu cyfle a ffyniant yn fwy cyfartal."
'Cynlluniau Llywodraeth Cymru sy'n gywir'
Dywedodd y dirprwy weinidog ar gyfer newid hinsawdd, Lee Waters, fod yr adroddiad yn dangos fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth cywir yn cefnu ar y cynllun ar gyfer ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd.
"Roedd y llywodraeth yn Llundain yn disgwyl i Peter Hendy ddod mas a dweud mai'r M4 newydd fyddai'r peth cywir," meddai.
"Ond yn bendant beth mae e wedi gwneud ydy dweud mai ein cynlluniau ni ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus newydd o amgylch Casnewydd ydy'r ffordd gywir o symud ymlaen.
"Dyna dwi'n credu yw'r pwynt mwyaf o'r adroddiad - mae Peter Hendy wedi dweud yn glir mai ein cynlluniau ni ydy'r ffordd gywir o fynd yn ein blaenau."
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi stop ar bob prosiect adeiladu ffyrdd newydd wrth iddi gynnal adolygiad.
Mae Syr Peter Hendy hefyd wedi cynghori Llywodraeth y DU i gefnogi mesurau i leihau tagfeydd ar yr M4, sy'n rhedeg o Sir Gaerfyrddin i Lundain, yn ogystal â gwella cyffordd yr M4 gyda'r M5 ger Bryste.
Byddai hyn yn cefnogi un arall o'i awgrymiadau i wella cysylltedd rhwng de Cymru a chanolbarth Lloegr.
Awgrymir gwelliannau rheilffyrdd yn ne Cymru, gan gynnwys uwchraddio ac adeiladu gorsafoedd newydd ar brif reilffordd de Cymru a chynyddu cysylltedd a lleihau amseroedd teithio rhwng Caerdydd a Birmingham - gan gynnwys gwell cerbydau, newidiadau amserlen a gwell seilwaith.
Mae gorsafoedd newydd eisoes ar y gweill ar gyfer prif reilffordd de Cymru, gan gynnwys gorsaf Parkway Caerdydd rhwng y brifddinas a Chasnewydd.
Mae arweinydd Llafur cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts, yn gobeithio y bydd y cynigion yn arwain at welliannau yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd: "Rydym am i Lywodraeth y DU gysylltu'r undeb. Gadewch i ni weld beth fydd yn cael ei gyflawni yn y pen draw."
Mae Mr Roberts hefyd yn is-gadeirydd Growth Track 360, sy'n lobïo dros wella rheilffyrdd yng ngogledd Cymru a Sir Caer.
Mae'n gobeithio y bydd gorsaf Caer yn cael ei huwchraddio o ganlyniad i'r adolygiad.
"Dim ond dau blatfform trwodd sydd yng ngorsaf Caer, mae angen moderneiddio'r trac yno," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd trenau'n rhedeg o Landudno i orsaf Lime Street yn Lerpwl y flwyddyn nesaf.
"Rydym wir yn pendroni dros sut maen nhw'n mynd i fynd trwy orsaf Caer, oherwydd nid yw'r gallu presennol yno'n ddigonol.
"Mae rhai o'n galwadau am wella'r sefyllfa yng ngogledd Cymru yn golygu newidiadau yn Lloegr. Caer yw'r orsaf allweddol, ac mae datgloi'r gallu yno yn arbennig o bwysig."
Dywedodd Mr Roberts bod tagfeydd mewn mannau penodol ar y ffyrdd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, gyda phobl ar eu gwyliau yn tynnu sylw at yr angen i wella rhai ffyrdd gan gynnwys yr A55.
"Er ein bod yn ymwybodol, gyda newid yn yr hinsawdd, bod angen symud at fwy o drafnidiaeth gyhoeddus, mae trafnidiaeth gyhoeddus i lawer yng ngogledd Cymru yn anobeithiol - gadewch i ni fod yn onest am hynny.
"Nid oes cludiant rheilffordd yn bodoli, ac mae'r gwasanaethau bysus yn amrywiol iawn.
"Wrth i ni symud gyda blaenoriaethau newid hinsawdd mae angen i ni gydnabod y ffaith bod gan drafnidiaeth gyhoeddus ran i'w chwarae, ond serch hynny bydd llawer o bobl sy'n dod i ogledd Cymru ar gyfer y farchnad wyliau yn dibynnu ar y ffyrdd."
'Arian mawr a dim byd yn newid'
Dywedodd Chris Bird, cyfarwyddwr cwmni CJ Bird Transport o Lantrisant, nad oes ganddo lawer o ffydd y bydd materion gyda'r rhwydwaith ffyrdd yn ne Cymru yn cael eu datrys yn sgil yr adroddiad.
"Dydw i ddim yn gweld nhw'n gwneud unrhyw beth am y sefyllfa," meddai.
"Byddan nhw'n gwario arian mawr ar adroddiad a does dim byd yn mynd i newid. Maen nhw [Llywodraeth Cymru] eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n gwneud mwy o welliannau i'r ffyrdd."
Gan gyfeirio at atal cynlluniau i adeiladu traffordd newydd o amgylch Casnewydd, ychwanegodd Mr Bird nad oedd datrysiad wedi'i gyflwyno eto.
"Mae'n amlwg mai Casnewydd yw'r pinch-point," meddai.
"Fy mhrif bryder yw mynd i mewn ac allan o Gymru mewn modd amserol, a phan mae damwain mae'n mynd i lawr i un lôn.
"Roeddem yna oedi o ddwy awr a hanner, tair awr yn gynharach yr wythnos hon. Cafodd amser gyrwyr ei wastraffu.
"Nid yw Casnewydd yn ffenomen newydd. Mae'n rhaid iddyn nhw gynnig datrysiad ac ni allaf eu gweld yn cynnig unrhyw beth gwell."
Ychwanegodd Mr Bird nad oedd wedi'i argyhoeddi gan gynlluniau i wella'r rhwydwaith reilffyrdd yn ne Cymru, o ystyried penderfyniad nifer o bobl i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ofnau ynghylch Covid-19.
"Maen nhw'n gwario'r holl arian hyn ar y Metro. Rwy'n credu nad yw teithio torfol ar agenda pobl ar hyn o bryd oherwydd y pandemig," meddai.
"Yn bersonol, fyddwn i ddim eisiau mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd ac mae hynny ym meddyliau llawer o bobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020