Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2023: Cymru 5-0 Gwlad Groeg

  • Cyhoeddwyd
Merched Cymru'n dathluFfynhonnell y llun, Kunjan Malde/FAW

Mae record ddiguro Cymru'n parhau yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023 wedi i dîm Gemma Grainger guro Gwlad Groeg yn hawdd ym Mharc y Scarlets Llanelli nos Wener.

Sgoriodd Ceri Holland ddwywaith yn y fuddugoliaeth o bum gôl i ddim ac roedd yna goliau hefyd gan Sophie Ingle, Kayleigh Green a Natasha Harding.

Chwe munud yn unig o chwarae fu cyn gôl gyntaf y noson, gyda symudiad a ddechreuodd gyda chroesiad isel o'r dde at Jess Fishlock a phas at Ingle a darodd y bêl i'r rhwyd.

10 munud yn ddiweddarach roedd y fantais wedi'i dyblu wedi camgymeriad gan yr amddiffynnwr, Maria Palama. Fe basiodd y bêl yn ôl i'r golwr Anthi Papakonstantinou, ond gyda'r maes mor wlyb, Green enillodd y ras i'w chyrraedd a mater bach oedd ei tharo â'r gôl yn wag.

Cafodd Papakonstantinou hunllef eto yn y 27ain munud i ildio trydedd gôl Cymru. Cafodd Green y gorau ar Palama ar ochr chwith y maes i basio'r bêl i Holland ar ymyl y cwrt. Fe ddylai'r golwr fod wedi arbed yr ergydiad yn hawdd ond yn lle dal y bêl fe'i hanelodd i'w rhwyd ei hun.

Ffynhonnell y llun, Kunjan Malde/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Ingle oedd sgoriwr gôl gyntaf y noson

Roedd yna ddechrau mwy pwrpasol gan Wlad Groeg ar ddechrau'r ail hanner ond wedi 10 munud roedd Holland wedi ymestyn mantais Cymru i 4-0.

Fishlock a greodd y cyfle ac fe grymanodd chwaraewr canol cae Lerpwl y bêl i gornel y rhwyd yn ardderchog i sgorio'i hail gôl o'r noson.

Peniad ardderchog oedd gôl nesaf Cymru - gan Harding wedi 67 o funudau. Wedi rhediad arbennig i lawr ochr dde'r cae, fe groesodd Rhiannon Roberts y bêl yn berffaith ati ac fe gododd rhwng amddiffynwyr Gwlad Groeg i sgorio gôl haeddiannol.

Disgrifiad,

Harding: "Gêm hollol wahanol" i ddod yn erbyn Ffrainc nos Fawrth

5-0 felly roedd y sgôr terfynol ac roedd buddugoliaeth mor swmpus a diddan yn wobr i'r dorf o dros 4,000 a ddaeth i wylio er gwaethaf yr oerni a'r glaw.

Gan fod Ffrainc yn dal yn chwarae adeg y chwiban olaf yn Llanelli, roedd Cymru ar frig y tabl dros dro gyda 13 o bwyntiau, ond roedd hynny'n siŵr o newid gyda Ffrainc 4-0 ar y blaen i Kazakhstan wedi'r hanner cyntaf yn unig.

6-0 oedd sgôr terfynol y gêm honno felly mae Cymru'n ail gyda dau bwynt yn llai na'u gwrthwynebwyr nesaf - oddi cartref nos Fawrth 30 Tachwedd yn Guingamp.