Cyngor: Twristiaid yn 'cymryd mantais' o gymunedau Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ciwiau ar ben yr WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciwiau ar gopa'r Wyddfa yn olygfa gyson dros fisoedd yr haf eleni

Mae cymunedau yn Eryri'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu "hecsbloetio" yn dilyn un o'r tymhorau twristaidd mwyaf prysur erioed.

Dyna mae Cyngor Gwynedd wedi ei ddweud, a hynny mewn blwyddyn ble mae niferoedd yr ymwelwyr wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd cyfyngiadau Covid ar deithio dramor.

Mae dros 660,000 o bobl wedi dringo'r Wyddfa eleni'n barod, ac roedd ciwiau sylweddol ar y copa bron bob dydd yn ystod yr haf.

Yn ôl y cyngor, mae rhannau o Eryri bellach yn wynebu heriau tebyg i ddinasoedd fel Amsterdam, Barcelona a Fenis, gyda mwy o dwristiaid yno nag y gallen nhw ymdopi â nhw.

'Gadael llanast a chyfrannu dim'

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Mawrth i drafod sut all y diwydiant twristiaeth newid er mwyn cydbwyso anghenion pobl leol, ymwelwyr, busnesau twristaidd a'r amgylchedd.

"Rydyn ni wedi profi dwy flynedd o dymor twristiaid anarferol ,o gyfnod clo i lif sylweddol iawn o dwristiaid newydd - pobl fyddai fel arfer wedi mynd dramor ar eu gwyliau," meddai arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.

"Mae hynny wedi cynyddu'r pwysau ar ein cymunedau'n sylweddol.

"Roedd o'n dda iawn i fusnesau a'r economi leol, ond 'dyn ni hefyd wedi cael math newydd o ymwelwyr, oedd ddim wir yn deall y cymunedau 'dan ni'n byw ynddyn nhw, na'r amgylchedd."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi dros y misoedd diwethaf yn casglu sbwriel sydd wedi ei adael ar ôl

Dywedodd fod problemau wedi bod gyda sbwriel a pharcio, tra bod costau trwsio llwybrau cerdded "yn anghynaladwy yn y tymor hir".

Dywedodd Mr Siencyn fod "cost i'r gymuned" hefyd, gan ychwanegu: "Rydych chi'n gweld hyn mewn llefydd fel Amsterdam, Fenis a Barcelona lle mae twristiaeth torfol yn niweidiol i'r diwylliant lleol.

"Mae rhai pobl yn gallu teithio i'r Wyddfa, dringo'r mynydd, gwneud llanast ac yna mynd adref heb gyfrannu unrhyw beth i'r economi leol.

"Beth sydd angen ei wneud yw edrych ar ffyrdd ble mae twristiaeth o fudd i'n cymunedau yn hytrach na'u hecsbloetio nhw."

Swyddi drwy'r flwyddyn?

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae twristiaeth yn cyfrannu £1.35bn y flwyddyn i economi'r sir, gyda dros 18,200 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector.

Ond dywedodd llefarydd fod swyddi yn y diwydiant yn aml yn talu cyflogau isel, ac yn rhai rhan amser sy'n dod i ben ar ddiwedd y tymor twristaidd.

Jonathan Williams-Ellis yw cadeirydd Eryri 360, grŵp sy'n cynrychioli atyniadau yn y gogledd orllewin, ac mae'n credu bod busnesau wedi cael blwyddyn dda yn 2021.

"Ond mae'r Wyddfa'n cael ei cholbio, a dydi hynny jyst ddim yn iawn," meddai.

"Fe allai rhwydwaith drafnidiaeth gwell a fwy gwyrdd fod yn rhan o'r ateb, a lleihau faint o geir sy'n llenwi pentrefi fel Beddgelert a Llanberis.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri hefyd wedi bod yn gwneud gwaith i atgyweirio llwybrau cerdded

"Mae angen edrych ar ffyrdd i gael ymwelwyr at lefydd eraill yn y gogledd orllewin, ac i ddod ar adegau gwahanol o'r flwyddyn hefyd."

Mae'n credu y byddai modd sicrhau swyddi drwy'r flwyddyn gyfan, yn hytrach na rhai tymhorol yn unig, os oedd modd rhannu niferoedd yr ymwelwyr ar draws 11 neu 12 mis.

"Mae angen cynllun hir dymor fan hyn fydd yn edrych ar ôl pobl leol, yr amgylchedd a'r iaith Gymraeg," meddai.

Gwaith gwirfoddolwyr

Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes yn gweithio ar gynllun i geisio sicrhau bod twristiaeth yn yr ardal yn fwy cynaliadwy dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, elusen sy'n ymgyrchu dros warchod y parc, mae gwirfoddolwyr wedi treulio miloedd o oriau dros yr haf yn casglu sbwriel.

"Ond mae'r haf yma hefyd wedi rhoi syniadau i ni ar sut i droi'r problemau i'n plaid ni," meddai John Harold.

"Rydyn ni wedi creu swyddi newydd i'n swyddogion cadwraeth sy'n gallu cydlynu timau gwirfoddol yn y dyfodol, a helpu wardeiniaid y parc cenedlaethol wrth gynorthwyo ymwelwyr.

"Mae'r rhain yn swyddi llawn amser gyda hyfforddiant da, a chyfle am yrfa.

"Mae'n dangos bod yn rhaid i chi edrych y tu hwnt i nifer yr ymwelwyr, a dod o hyd i gyfleoedd i wneud y mwyaf o'r diwydiant twristiaeth sydd gennym ni."