Isadeiledd gwael am 'niweidio' twristiaeth ac amgylchedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Gall isadeiledd gwael sydd methu ag ymdopi â'r nifer cynyddol o ymwelwyr yng Nghymru niweidio enw da y wlad fel lleoliad twristaidd, yn ôl arbenigwyr yn y diwydiant.
Wrth i ymwelwyr heidio i fynyddoedd a thraethau yng Nghymru, mae adroddiadau am drenau gorlawn, tagfeydd traffig a phroblemau parcio wedi dod i'r wyneb.
Dywedodd Marcus Hanson, darlithydd twristiaeth o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, y gallai problemau o'r fath arwain at "ganlyniadau negyddol" i dwristiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn darparu cefnogaeth i ddelio â'r cynnydd yn y galw.
Mae llawer o atyniadau wedi gweld y nifer uchaf erioed o ymwelwyr wrth i fwy o bobl fynd ar eu gwyliau yn y DU yn sgil y rheolau teithio tramor presennol.
Yn ôl wardeiniaid y parciau cenedlaethol, mae eu meysydd parcio a gwersylla yn yn orlawn.
Ac er bod busnesau'n croesawu'r cynnydd mewn ymwelwyr, dywedodd rhai nad oeddent yn gallu gwneud yn fawr o'r galw oherwydd rheolau Covid-19.
'Canlyniadau negyddol'
Dywedodd Mr Hanson bod pobl yn chwilio am brofiadau "unigryw" a gyda mynyddoedd a thraethau bendigedig, mae gan Gymru lawer i'w gynnig.
"Mae gennym ni gymaint o harddwch naturiol yma ac mae pobl yn ysu am leoliadau o'r fath ar ôl y cyfnodau clo," meddai. "Mae pobl eisiau bod allan ym myd natur i deimlo'r rhyddid naturiol 'na.
"Ond un pryder yw nad ydyn ni'n meddwl yn y tymor hir ar hyn o bryd.
"Rydym yn canolbwyntio ar oroesi a gall hyn arwain at ganlyniadau negyddol i dwristiaeth a'r amgylchedd.
"Rydyn ni'n ysu i bobl ddod yma a rydyn ni angen iddyn nhw ddod yma, ond dydyn ni ddim eisiau niweidio ein henw da.
"Dydyn ni ddim eisiau i bobl feddwl nad ydy Cymru yn medru ymdopi â thwristiaeth."
Gyda theithwyr yn cwyno am drenau gorlawn sy'n aml wedi'u gohirio, dywedodd Mr Hanson bod isadeiledd y wlad eisoes wedi ei chael hi'n anodd i ymdopi ac ei bod yn amlwg na allai wneud hynny rhagor.
'Tensiwn mewn cymunedau'
Yn Sir Benfro bu galwadau am welliannau diogelwch ar yr A40 yn sgil ofnau y gallai mewnlifiad mewn traffig gwyliau arwain at fwy o farwolaethau.
Dywedodd Mr Hanson bod y cynnydd mewn traffig wedi achosi tensiwn mewn rhai cymunedau.
"Yng ngogledd Cymru mae gennym atyniadau sy'n unigryw o gymharu â gweddill y byd, ond mae gennym yr A55, sy'n ffordd tair lon nes i chi gyrraedd Cymru, ac yna mae'n ffordd ddwy lon," meddai.
Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ar gynlluniau i leihau tagfeydd traffig wrth gael gwared o gylchfannau ger Conwy, gyda Llywodraeth Cymru yn gobeithio dechrau ar y gwaith yn ddiweddarach eleni.
Ond mae cynlluniau ar gyfer ffordd ddeuol wyth milltir newydd yn Sir y Fflint wedi codi pryderon am yr effaith amgylcheddol.
Dywedodd Mr Hanson na ellid gwneud newidiadau mewn pryd i ddelio â'r galw, gyda rhannau o Gymru yn dioddef ers "blynyddoedd gyda phroblemau" isadeiledd.
"Mae hyn yn difetha'r profiad i'r twristiaid sy'n dod yma, ond mae hefyd yn ei ddifetha i'r bobl leol, ac yn achosi drwgdeimlad oherwydd mae'n anodd iawn cael mynediad i ardaloedd o harddwch naturiol," meddai.
"Ni allwn eistedd yn ôl a mwynhau'r arian sy'n dod mewn bob haf, mae'n rhaid i ni ei fuddsoddi."
'Chwerthinllyd o brysur'
Dywedodd awdurdodau parciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro eu bod yn gweld cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, taflu sbwriel a gwastraff dynol ar lwybrau a meysydd parcio wrth i wyliau'r haf ddechrau.
Ar ôl i gannoedd o bobl barcio ar linellau melyn i gerdded fyny'r Wyddfa, cyflwynodd awdurdod y parc lefydd parcio y gall pobl eu harchebu ymlaen llaw, gan hefyd gynyddu'r nifer o fysiau sy'n cludo pobl yno.
Dywedodd David Jones, uwch warden ar gyfer de'r parc, fod y cynllun parcio wedi bod yn lwyddiant ond bod mannau poblogaidd eraill yn "chwerthinllyd o brysur" a bod problemau'n gwaethygu mewn rhai lleoedd.
"Mae'n ymwneud â'r nifer fawr o bobl. Mae'r meysydd parcio yn orlawn," meddai.
Dywedodd Mr Jones bod mwyafrif bach o bobl yn cam-drin y dirwedd a'i fod yn poeni efallai na fyddai rhannau o'r parc yn gallu ymdopi pe bai'r niferoedd yn cynyddu eto.
Roedd mwy o erydiad yn cael ei achosi i lwybrau, mwy o sbwriel yn cael ei adael, a byddai angen mwy o wardeiniaid i helpu i ddelio â'r galw, meddai.
"Rydyn ni am i ymwelwyr ddod yma, ond mae angen i ni ddiogelu'r parc ar gyfer y cymunedau sy'n byw yma, dyma eu cartref," meddai.
'Ddim yn medru bwcio bwrdd'
Yn Sir Benfro, wedi misoedd o gludo pobl hŷn i gael eu brechlyn ac anfon bwyd i bobl bregus yn ystod y cyfnod clo, mae gyrwyr tuk-tuk yn danfon twristiaid o gwmpas strydoedd Dinbych y Pysgod unwaith eto.
Yn ôl y gyrwyr, nid yw ymwelwyr yn medru bwyta allan oherwydd bod bwytai wedi cyrraedd capasiti cyfyngiadau Covid-19 neu wedi cau yn sgil problemau staffio.
"Dydy pobl ddim yn medru bwcio bwrdd. Mi wnaeth fy ngŵr bigo rhywun i fyny yn Saundersfoot a doedden nhw methu dod o hyd i fwyty, felly roedd yn rhaid iddynt gael brechdan o'r archfarchnad," meddai'r perchennog Lorraine Niederlag.
Mae Ms Niederlag hefyd yn berchen ar faes gwersylla a dywedodd bod ei busnes tacsi yn cael ei effeithio gan fod gwersyllwyr yn archebu bwyd i fynd yn hytrach na bwyta allan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithio'n agos gydag ystod o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol, i helpu i gynllunio'n ofalus ac yn ddiogel, ac i rhoi mesurau ar waith."Mae cyllid ar gael iddyn nhw ac awdurdodau lleol i gefnogi'r costau ychwanegol o reoli'r nifer cynyddol yn yr ymwelwyr," meddai."Rydyn ni hefyd wedi comisiynu Trafnidiaeth i Gymru i gefnogi awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan weithio gyda chynghorau Gwynedd a Conwy, i annog parcio a theithio a defnydd bws yn y parc cenedlaethol," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021