Be' wnawn ni am dwristiaeth?
- Cyhoeddwyd
"Mae'n dda eu bod nhw'n dod yma, ond braf eu gweld nhw'n mynd..."
Mae'n frawddeg sy'n cael ei dweud yn aml mewn ardaloedd poblogaidd o Gymru wrth i'r tymor ymwelwyr ddod i ben. Ar ôl haf arall tu hwnt o brysur eleni yn sgil cyfyngiadau ar deithio tramor, mae cwestiynau wedi codi eto ynglŷn â sut i gael twristiaeth gynaliadwy.
Cymru Fyw fu'n holi'r ymgynghorydd twristiaeth Arwel Jones am ei farn o ar y ffordd ymlaen a'r gwersi allwn ni eu dysgu gan wledydd eraill.
Hawlio twristiaeth i ni ein hunain
Mae angen i'r Cymry newid agwedd ac efelychu'r Eidalwyr a'r Ffrancwyr, sy'n ymfalchïo o weithio yn y sector lletygarwch, meddai Arwel Jones:
"Yn lle cwyno am dwristiaeth dylen ni hawlio twristiaeth. Os ydan ni eisiau ein plant aros yma, mae gofyn creu swyddi - ac un o'r meysydd sy'n creu incwm ydi twristiaeth a hamdden.
"Mae mwy a mwy o bobl leol rŵan yn ymafael yn y sector. Er enghraifft, mae Portmeirion yn cael ei redeg gan Gymry Cymraeg ac yn atyniad rhyngwladol - ac felly mae yna lysgenhadon lleol sy'n dangos y ffordd i eraill."
Cofio beth sy'n gwneud Cymru yn arbennig - ac osgoi 'Disney'
Mae Arwel wedi darlithio ar dwristiaeth yn Uzbekistan ac mae'n dweud bod angen efelychu'r ffordd maen nhw wedi gwarchod a rheoli Samarkand, sy'n safle treftadaeth y byd UNESCO.
"Ro'n i'n dweud wrthyn nhw i beidio gwneud yr un camgymeriadau a ryda ni wedi gneud yn y gorllewin - iddyn nhw werthfawrogi eu treftadaeth, hanes ac archeoleg a pheidio gor-ddatblygu yn rhy fuan... 'don't Disney-fy the experience'.
"Ro'n i'n dweud 'mae ganddoch chi rhywbeth hollol unigryw, 'da chi ar y silk road, mae straeon hanesyddol penigamp yma a chynnyrch fel tecstilau hollol unigryw - mae angen ymfalchïo yn beth sydd ganddoch chi."
Gwneud i arian 'weithio'n galetach'
Os ydi pobl yn dod i'r ardal, mae angen eu hannog i wario mwy er mwyn gwella'r economi leol - a gall rhai rhanbarthau ddysgu gan eraill.
Dywed Arwel, sy'n ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, bod gwaith ymchwil ganddo yn y gorffennol wedi dangos nad ydi'r sector mânwerthu yng Ngwynedd, er enghraifft, cystal ag ardaloedd eraill o Gymru a Phrydain.
"Dydi arian yr ymwelwyr ddim yn gweithio digon caled," meddai. "Tydi'r cyfleoedd gwariant ddim yno cymaint â llefydd fel, dweder, Ardal y Llynnoedd. Safon ydi lot ohono.
"Ers i mi wneud yr ymchwil mae llefydd fel Snowdonia Adventure - Surf Snowdonia gynt - a Zip World wedi agor, gyda gwesty yn Llanrwst yn gysylltiedig â'r syrffio. Felly mae'r ansawdd wedi codi, ond tydi pethau dal ddim yn gweithio cystal i'r economi leol ac y gallai.
"Y broblem dwi'n weld hefyd ydi bod pobl yn dod yma am ddiwrnod i gerdded, yn cyrraedd efo'u brechdanau a fflasg llawn te, ac yn gwario dim byd. Mae'n her i annog pobl i aros yn hirach a gwario mwy gyda'r nos. Os oes gen ti gynnig gwely a brecwast da neu weithgaredd mewn tŷ tafarn gyda'r nos mae'n ychwanegu gwerth i'r ymweliad."
Cynllunio hirdymor - er lles pawb
Does 'na ddim ffasiwn beth â 'diwydiant twristiaeth' yn ôl yr ymgynghorydd twristiaeth annibynnol.
Mae'r sector yn cynnwys nifer o elfennau gwahanol sy'n cael eu defnyddio gan ymwelwyr a phobl leol, er enghraifft siopau, atyniadau, gweithgareddau awyr agored, tai bwyta, gwestai, tafarndai a chaffis - ac mae angen cydbwysedd rhwng gofynion twristiaeth a gofynion y gymuned leol.
Meddai: "'Da ni wedi sylweddoli yn ystod Covid pa mor dawel mae llefydd yn gallu bod ac mae wedi bod yn sioc gweld y mewnlifiad o ymwelwyr yn digwydd mor sydyn.
"Mae angen creu rhywbeth sydd i'r hirdymor, nid yn unig i'r tymor hwn - mae angen gweledigaeth i'r dyfodol a chynllunio tuag ato fo, a hynny yn y sector breifat a cyhoeddus - a datblygu twristiaeth o fewn amynedd y bobl leol."
Gwella parcio a thrafnidiaeth
Wrth i bobl heidio i ardaloedd poblogaidd fel Eryri, mae'r cynnydd mawr mewn traffig yn creu cur pen i bobl leol ac ymwelwyr.
Dywed Arwel, sydd wedi gweithio ar brosiectau twristiaeth mewn sawl gwlad yn cynnwys Gwlad Pwyl, Tanzania, Portiwgal ac Iwerddon, fod yn rhaid gwella isadeiledd er lles y trigolion lleol a'r ymwelwyr. Gyda rheolau parcio newydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar o gwmpas yr Wyddfa, mae'n bosib y byddai cynllun gafodd ei greu tua 15 mlynedd yn ôl yn cael mwy o lwyddiant heddiw.
"Fe gafodd meysydd parcio penodol eu creu yn llefydd fel Llanrwst a Nant Peris, a system parc and ride yn hybu cludiant cyhoeddus. Y bwriad oedd bod pobl yn dod oddi ar y bws, cerdded dros y mynydd, wedyn dod yn ôl efo bws arall. Ond roedd pobl mor gyndyn i adael eu ceir wnaeth y cynllun ddim llwyddo fel roedden nhw'n gobeithio.
"Roedd yn syniad da iawn ac mae cynllun tebyg yn Ardal y Peak yn dal i redeg."
Gwell defnydd o dechnoleg
Gyda chanolfannau gwybodaeth twristiaeth wedi cau ac ymwelwr yn cael eu gwybodaeth dros y we, mae'n rhaid manteisio ar dechnoleg i rannu gwybodaeth gywir am Gymru a'r ardaloedd penodol, meddai Arwel:
"Dwi'n cofio gweithio ar gynllun i ddatblygu ap ar y cyd efo Iwerddon i ddathlu treftadaeth Iwerddon a Môn a rhoi pob math o wybodaeth am ddaeareg, chwedloniaeth ac yn y blaen a gwybodaeth ymarferol am bethau fel tai tafarn, siopau a bwytai lleol.
"Mae potensial enfawr. Mae ffonau heddiw yn gwybod lle wyt ti ac yn gallu dweud pethau am y lle penodol hwnnw."
Denu pobl i ffwrdd o'r 'potiau mêl'
Mae llwybrau twristiaeth wedi cael eu datblygu o gwmpas Cymru i dywys pobl i lefydd llai poblogaidd er mwyn tynnu pwysau oddi ar ganolfannau prysur ac i ledaenu'r arian i ardaloedd eraill o Gymru.
Ond mae angen bod yn ofalus i beidio rhuthro i mewn - a gwersi i'r dysgu gan wledydd eraill.
"Un wers i'w ddysgu ydi o ogledd yr Alban, lle mae llwybr i foduron wedi datblygu ond heb holi cymunedau lleol o gwbl. O'r herwydd mae llwyth o bobl mewn campervans yn mynd fyny ac i lawr lonydd cul, heb wybod sut i basio, gadael sbwriel a charthion - tydi'r isadeiledd dim yno. Maen nhw wedi eu marchnata cyn bod yr isadeiledd yn barod, a heb drafod efo cymunedau lleol."
Hefyd o ddiddordeb: