Y Bencampwriaeth: Luton 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi codi ymhellach o safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth arall i Steve Morison ers iddo gymryd yr awenau fel rheolwr.
Cafodd yr ymwelwyr y dechrau perffaith wrth i beniad y Cymro Rubin Colwill sleifio dros y linell gôl wedi 10 munud - a'r Adar Gleision yn sgorio yn yr hanner cyntaf am y tro cyntaf y tymor yma yn y gynghrair.
Wedi'r egwyl cafodd y ddau dîm gyfleoedd pellach, ond Luton darodd gyntaf gydag ergyd Jordan Clark yn unioni'r sgôr wedi 64 o funudau.
Gydag 13 munud i fynd fodd bynnag, roedd Caerdydd yn ôl ar y blaen wrth i'r capten Sean Morrison benio croesiad Ryan Giles i gefn y rhwyd.
Ac felly'r arhosodd hi, gyda Chaerdydd yn aros yn 20fed yn y tabl am y tro ond yn agor ychydig mwy o fwlch i'r timau ar y gwaelodion.