Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-3 Reading

  • Cyhoeddwyd
Andy CarrollFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-ymosodwr Lloegr, Andy Carroll oedd un o sgorwyr Reading

Colli oedd hanes Abertawe ar Stadiwm Liberty mewn gêm gyffrous yn erbyn Reading oedd yn llawn cyffro cynnar.

Dechreuodd yr ornest ar garlam, gyda Jamie Paterson yn rhoi'r Elyrch ar y blaen wedi tair munud, a Tom Dele-Bashiru yn unioni'r sgôr funud yn ddiweddarach.

Ar ôl hanner awr roedd yr ymwelwyr ar y blaen, gyda'r ymosodwr Andy Carroll yn sicrhau mai Reading fyddai â'r fantais ar yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner yn union yr un modd â'r cyntaf, wrth i Ryan Manning sgorio i Abertawe ar ôl 49 munud cyn i Danny Drinkwater roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen funud yn ddiweddarach unwaith eto.

Cafodd Abertawe sawl cyfle i unioni'r sgôr, gyda Matt Grimes, Olivier Ntcham a Joel Piroe yn mynd yn agos, ond bu'n rhaid i Ben Hamer yn y gôl i'r Elyrch hefyd wneud arbediad da o gic rydd John Swift i gadw'i dîm ynddi.

Ond colli gartref am ddim ond yr eildro'r tymor yma oedd ffawd yr Elyrch, sy'n nawfed yn y tabl o hyd a phum pwynt o'r gemau ail gyfle.