Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Bromley

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Mullin bellach wedi sgorio 10 gôl mewn 14 gêm i Wrecsam y tymor yma

Mae Wrecsam wedi codi i safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth ar y Cae Ras yn erbyn Bromley.

Fe wnaeth Bromley bethau'n anodd i'w hunain o'r cychwyn cyntaf, gyda Liam Trotter yn cael cerdyn coch wedi wyth munud yn unig am dacl wael ar Daniel Jarvis.

Daeth y gôl agoriadol wedi 32, wrth i Reece Hall-Johnson chwipio'r bêl i ganol y cwrt cosbi a chanfod cornel y rhwyd.

Dyblwyd y fantais wedi llai nag awr o chwarae, wrth i'r ymosodwr Paul Mullin ganfod cefn y rhwyd gyda foli.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau bellach yn seithfed yn y tabl, pwynt y tu ôl i Bromley a chwech y tu ôl i Chesterfield ar y brig.