Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 14-30 Caeredin
- Cyhoeddwyd
Sicrhaodd Caeredin bwynt bonws yn eiliadau olaf y gêm wrth iddyn nhw drechu'r Dreigiau i ddringo i'r ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Cafodd y tîm cartref ddechrau sâl i'r ornest ar Rodney Parade, gydag Emiliano Boffeli yn torri drwy'r linell amddiffynnol ar ôl tair munud i sgorio'r cais cyntaf, a Blair Kinghorn yn trosi.
Parhau i bwyso wnaeth yr ymwelwyr a daeth yr ail gais i Archentwr arall, Ramiro Moyano gyda llai nag 20 munud ar y cloc.
Tarodd y Dreigiau yn ôl bron yn syth, wrth i Harrison Keddie dorri drwyddo a bwydo Sam Davies i groesi, gyda Davies hefyd yn trosi cais ei hun.
Ac roedden nhw ar y blaen gyda llai na 10 munud i fynd o'r hanner, gyda Jonah Holmes yn gorffen y symudiad a Davies yn llwyddo gyda throsiad arall.
Ond Caeredin aeth i mewn i'r egwyl ar y blaen, wrth i Moyano gael ei ail i roi mantais o dri phwynt i'r ymwelwyr ar yr hanner.
Ciciau yn hytrach na cheisiau oedd stori'r ail hanner, gyda Kinghorn yn llwyddo gyda dwy ymgais at y pyst i ymestyn mantais Caeredin i naw pwynt gyda 12 munud yn weddill.
Ond daeth y cais olaf wrth i'r cloc droi yn goch, gyda Damien Hoyland yn croesi a Kinghorn yn ychwanegu'r trosiad i goroni'r fuddugoliaeth.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Dreigiau'n aros yn 11fed yn y tabl, gydag ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm hyd yma.