Penodi Jo Stevens yn llefarydd Llafur ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae AS Canol Caerdydd Jo Stevens wedi ei phenodi'n llefarydd materion Cymreig newydd y Blaid Lafur.
Bydd Ms Stevens yn cymryd lle Nia Griffith, AS Llanelli, sydd wedi bod yn y rôl ers 2020.
Daeth y newid wrth i arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ad-drefnu ei gabinet ddydd Llun.
Ms Stevens oedd llefarydd y blaid ar faterion Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
"Rydw i'n dymuno parhau gyda gwaith gwych fy ffrind Nia Griffith yn y swydd newydd," meddai'r AS ar Twitter.