Gwahardd CPD Dinas Bangor o bêl-droed domestig

  • Cyhoeddwyd
NantporthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd CPD Bangor i'w cartref newydd yn Nantporth bron i 10 mlynedd yn ôl

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwahardd Dinas Bangor o "holl weithgareddau pêl-droed" am y tro.

Dywed y Gymdeithas eu bod wedi dod i'r penderfyniad wedi "nifer o anghydfodau gan bersonél" y clwb ynglŷn ag honiadau o beidio talu cyflogau.

Mae'r clwb wedi methu a thalu arian mewn da bryd, meddai'r Gymdeithas, sydd wedi arwain at waharddiad awtomatig hyd nes y bydd y clwb yn talu'r arian.

Tan hynny, ni fydd y clwb - sy'n chwarae yn ail haen y pyramid pêl-droed yng Nghymru - yn cael chwarae mewn gemau na chwaith yn cael ymarfer.

Dyledion

Yn gynharach eleni, yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, daeth i'r amlwg bod dyledion gan y clwb.

Fe aeth clwb arall yn Yr Eidal - oedd hefyd dan arweinyddiaeth eu llywydd, Domenico Serafino - i'r wal wedi i chwaraewyr a staff yno beidio a chael eu talu.

Mewn ymateb fis diwethaf, dywedodd Mr Serafino mewn datganiad bod "trefn ar bethau" o fewn y clwb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bangor yn dathlu buddugoliaeth gofiadwy yn Ewrop yn 2010

Mae gan glwb Dinas Bangor hanes hir a llwyddiannus.

Maen nhw wedi ennill Cwpan Cymru ar wyth achlysur ac wedi bod yn bencampwyr ar adran uchaf pêl-droed domestig Cymru deirgwaith ers dechrau'r 90au.

Bu'r clwb yn chwarae ar lefel Ewropeaidd hefyd, gan ennill buddugoliaeth enwog yn erbyn tîm Napoli ym 1962.

Ond yn 2019, fe adawodd nifer o gefnogwyr y clwb mewn protest ar sut oedd pethau'n cael eu rhedeg, gan ffurfio clwb newydd, Bangor 1876.