Deintydd: 'Amser hir cyn i restrau aros fynd yn ôl i normal'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dr Sion Griffiths: 'Ffigyrau yn syfrdanol ac yn bryder'

Fe allai gymryd blynyddoedd i restrau aros gwasanaethau deintyddol ddychwelyd i'r lefelau oedden nhw cyn y pandemig, yn ôl un deintydd.

Dim ond 3,500 o blant welodd ddeintydd ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 2020-21.

Yn yr un cyfnod, cafodd 1.8m yn llai o driniaethau eu cynnal ar blant ac oedolion - cwymp o dros 75%.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 60% o'r cleifion arferol sy'n cael eu gweld yn y ddeintyddfa lle mae Tristan Roberts yn gweithio

Yn ôl Tristan Roberts, sy'n ddeintydd yng Nghaerdydd, mae'r flaenoriaeth yn dal yn mynd i gleifion sydd "mewn poen, neu sy'n achosion brys".

"Fydd hi ymhell i mewn i flwyddyn nesaf, o leiaf, neu ymhellach na hynny hyd yn oed cyn y gwelwn ni bethau yn fwy normal eto," meddai.

Dywed Dr Sion Griffiths sy'n llefarydd ar ran Y Gymdeithas Ddeintyddol bod y "ffigyrau yn syfrdanol ac yn achos pryder" ond bod diheintio pob man rhwng cleifion "yn cymryd amser hir".

Ychwanegodd Dr Russell Gidney, cadeirydd Cymdeithas Deintyddion Cyffredinol Prydain ar Bwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, fod blinder ymhlith deintyddion a phroblemau recriwtio yn bygwth apwyntiadau rheolaidd rhag dychwelyd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae £3m ychwanegol wedi'i glustnodi i adfer gwasanaethau deintyddol wedi'r pandemig.

Dywed y Gymdeithas Ddeintyddol fod y sefyllfa yn raddol wella.

Ond mae'r arafwch yn bryder i lawer, ac yn arbennig efallai i rieni sy'n poeni am gyflwr dannedd eu plant.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Anest Gwyn na'i phlant Nisien, 4, a Tegai, 6, heb allu gweld deintydd ers Medi 2019

Yn eu cartref yn Llandwrog yng Ngwynedd mae Tegai, sy'n chwech oed, a Nisien, sy'n bedair, yn glanhau eu dannedd eu hunain bob dydd.

Ond dydyn nhw, na'u mam, heb weld deintydd ers dros ddwy flynedd.

"Dwy oed oedd yr ieuengaf - mae o rŵan yn bedair a hanner, ac mae'r hynaf bron yn saith," medd Anest Gwyn.

"Wrth gwrs, mae yna newidiadau mawr wedi bod ers hynny - tyfu mwy o ddannedd, colli dannedd.

"Ond hefyd, hwnnw ydy'r cyfnod dwi'n teimlo lle maen nhw'n gosod sylfaen i ofalu am eu dannedd am byth."

Angen 'un rheol i bawb'

Ychwanegodd: "Be' dwi'n teimlo sy'n annheg ydy'r sefyllfa wahanol o ddeintyddfa i ddeintyddfa.

"Mae gen i ffrindiau a'u plant wedi gweld deintydd sawl gwaith yn barod. Ond dydyn ni heb weld deintydd unwaith.

"Dwi a'r plant yn gleifion NHS, ac mae gan fy neintyddfa i bractis preifat hefyd. Mae'r cleifion preifat wedi bod at y deintydd ac wedi cael sawl check-up.

"Mae pethau'n araf i ni wrth gwrs oherwydd nad ydy pob deintyddfa yr un fath. Petai yna un rheol i bawb yna dwi'n meddwl y byddai pawb yn deall. Ond nid dyna'r achos."

Mae Ms Gwyn, o'r diwedd, bellach wedi cael apwyntiadau i'r plant fis yma.

Ond fe fydd hi'n Ebrill y flwyddyn nesaf cyn y bydd modd iddi hi fynd at y deintydd - un o'r degau o filoedd yng Nghymru sy'n dal i aros.

Lawr yng Nghaerdydd, dim ond 60% o'r cleifion arferol sy'n cael eu gweld yn y ddeintyddfa lle mae Tristan Roberts yn gweithio.

"Mae'r ystadegau yn dangos fod y pandemig wedi cael effaith ddramatig ar y mynediad i gleifion i weld deintydd yng Nghymru," meddai.

"Yn y flwyddyn cyn y pandemig roedd ychydig dros 2.3m o driniaethau wedi'u gwneud gan ddeintyddion yng Nghymru.

"Yn 2020-21 fe wnaeth hyn ddisgyn i ryw 540,000 o driniaethau - lleihad o ryw 1.8m. Mae hyn wedi effeithio ar blant ac oedolion hefyd."

Ystadegau GIG Cymru yw'r rhain. Yn 2020-21 roedd y 3,500 o blant a welodd ddeintydd yn ostyngiad syfrdanol o 99.4% o'i gymharu â 2019-20.

Offer amddiffyn yn 'straen'

"Yn amlwg mae yna backlog mawr wedi'i greu fan hyn, ac oherwydd cyfyngiadau sy'n dal ganddo ni i atal lledaeniad yr haint mae'r backlog yma yn dal i gynyddu," ychwanegodd.

"Y peth mwyaf sy'n rhaid i ni boeni amdano rŵan ydy'r amser y mae'n cymryd i'r aer setlo rhwng cleifion.

"Ar ôl unrhyw weithgaredd sy'n cynhyrchu aerosol - fel glanhau a llenwadau - mae angen caniatáu chwarter awr i hyd at awr, yn dibynnu ar yr awyriad yn y practice."

Mae deintyddfeydd, meddai, wedi "buddsoddi llawer o arian i gael yr awyriad gorau posib, ond mae rhai wedi'u cyfyngu - y rheiny mewn hen adeiladau, er enghraifft, neu adeiladau cofrestredig".

"Hyd yn oed efo'r amodau gorau, fel sydd ganddo ni yma, allan ni ond gweld 60% o'r nifer o gleifion oedden ni'n gallu eu gweld cynt," meddai Mr Roberts.

"'Da ni wedi gorfod arafu reit i lawr, tra ceisio gweld cymaint o gleifion â phosib. Mae'r staff yn gorfod gwisgo offer i amddiffyn eu hunain rhag heintiau - i amddiffyn y cleifion hefyd. Mae'n gallu bod yn straen ar y staff, yn enwedig os ydy'r driniaeth yn un hir."

Mae Mr Roberts hefyd yn amau fod yr anallu i ddenu deintyddion newydd i weithio, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin, wedi cael effaith ar y sefyllfa drwy Gymru.

Fis Tachwedd cafodd £3m ychwanegol ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru i "gefnogi adferiad" gwasanaethau deintyddol.

Dywedodd llefarydd y byddai £2m o gyllid rheolaidd yn cael ei roi'r flwyddyn nesaf i ddeintyddiaeth y GIG.

"Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar ddeintyddiaeth," meddai.

"Hyd yn oed gyda mesurau caeth ar waith i ddiogelu cleifion a staff rhag Covid-19, mae tua 30,000 o bobl nawr yn cael eu gweld wyneb yn wyneb bob wythnos ar draws Cymru, a 2,500 o bobl eraill yn cael cyngor ac ymgynghoriadau, neu ymgynghoriadau dilynol, gan eu practisau deintyddol yn rhithwir."