Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-2 Yeovil
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam golli yn y gynghrair am y tro cyntaf ers chwe gêm nos Fawrth, wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Yeovil ar y Cae Ras.
Yn dilyn dechrau addawol i Wrecsam daeth ergyd fawr wedi 34 munud wrth i'r blaenwr Liam McAlinden weld cerdyn coch am roi ei benelin yn wyneb Dan Moss.
Daeth gôl gynta'r gêm i'r ymwelwyr yng nghanol yr ail hanner wrth i Josh Staunton rwydo o groesiad Jordan Barnett.
Dyblwyd mantais yr ymwelwyr gyda llai na 10 munud yn weddill, wrth i Sonny Lo-Everton fanteisio ar ansicrwydd yn y cwrt cosbi i rwydo heibio i'r golwr Rob Lainton.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn y seithfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol, ond wedi chwarae un gêm yn fwy na mwyafrif y timau o'u cwmpas.