Gwyddonwyr o Gaerdydd yn canfod achos ceuladau AstraZeneca

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Allan o bron i 50 miliwn dos o'r brechlyn sydd wedi'u dosbarthu'n y DU, mae 73 o bobl wedi marw o geuladau gwaed

Mae gwyddonwyr o Gymru'n credu eu bod wedi canfod pam fod brechlyn Covid Oxford-AstraZeneca yn gallu arwain at geulad gwaed mewn achosion prin iawn.

Mae'r tîm - cymysgedd o wyddonwyr yng Nghaerdydd a'r Unol Daleithiau - wedi gallu dangos yn fanwl iawn sut y mae protein yn y gwaed yn cael ei dynnu at elfen allweddol o'r brechlyn.

Maen nhw'n credu fod hyn yn arwain at broses all olygu fod claf yn cael ceulad gwaed peryglus.

Y gred yw bod brechlyn AstraZeneca wedi achub tua miliwn o fywydau allai fod wedi'u colli i Covid.

Ond mae pryder am y ceuladau gwaed prin wedi newid y ffordd y mae'r brechlyn yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd, fel y ffaith nad yw'n cael ei gynnig i unrhyw un dan 40 oed yn y DU bellach.

Fe wnaeth hynny arwain at ymgyrch wyddonol i geisio deall pam fod yr achosion prin hynny yn digwydd, ac a oes modd ei osgoi.

Cafodd y tîm yng Nghaerdydd nawdd brys gan y llywodraeth er mwyn ceisio canfod atebion.

'Covid yn fwy tebygol o achosi ceulad'

Fe wnaeth gwyddonwyr AstraZeneca hefyd ymuno â'r prosiect wedi i'r canlyniadau cychwynnol gael eu cyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod ceuladau gwaed yn fwy tebygol o ddigwydd i'r rheiny sydd wedi dal Covid nag oherwydd y brechlyn, ac nad yw'r gwyddonwyr hyd yma wedi gallu datgan 100% pam fod y ceuladau'n digwydd.

Ond ychwanegodd fod y cwmni yn defnyddio canfyddiadau'r ymchwil i geisio atal yr "achosion prin iawn" o geuladau.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod brechlyn AstraZeneca wedi achub tua miliwn o fywydau allai fod wedi'u colli i Covid

Mae pob brechlyn Covid sydd wedi'u cymeradwyo yn y DU yn rhoi rhan o god genetig Covid i mewn i'r corff er mwyn hyfforddi'r system imiwnedd.

Mae'r cod genetig hwnnw yn cael ei roi yn y corff ar ffurf adenofeirws, ac mae'r ymchwilwyr wedi gallu canfod mai dyma achos y ceuladau.

Mae arwynebedd yr adenofeirws yn tynnu protein sydd yn y gwaed - platelet factor-4 - tuag ato, a dyma sy'n arwain at yr achosion prin hynny.

'Dim modd rhagweld'

Dywedodd yr Athro Alan Parker o Brifysgol Caerdydd, fu'n rhan o'r ymchwil eu bod "wedi canfod yr achos, ond mae lot o gamau sydd angen digwydd ar ôl hynny" i achosi ceulad.

Does dim cadarnhad eto am y camau hynny, ond mae'r gwyddonwyr yn credu fod y corff yn dechrau ymosod ar y protein, gan ei gamgymryd am yr adenofeirws gan eu bod yn sownd i'w gilydd.

Ond cyfres o ddigwyddiadau anarferol fyddai hyn, allai egluro pam fod achosion o geuladau gwaed mor brin.

Y gred yw bod 73 o bobl yn y DU wedi marw o ganlyniad i geuladau gwaed oherwydd y brechlyn - allan o bron i 50 miliwn dos sydd wedi'u dosbarthu.

"Allech chi fyth fod wedi rhagweld y byddai'n digwydd gan fod y tebygolrwydd mor anhygoel o isel, felly mae'n rhaid cofio'r darlun ehangach, sef nifer y bywydau mae'r brechlyn yma wedi'i achub," meddai'r Athro Parker.

Mae'r tîm o wyddonwyr yng Nghaerdydd yn gobeithio y bydd canfyddiadau eu hymchwil yn helpu i wella brechlynnau sy'n defnyddio adenofeirws yn y dyfodol.