Rheolau hunan-ynysu newydd yn 'drasiedi' i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
warws Harlech Foods
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o fusnesau cludo bwyd mwyaf Cymru'n poeni am effaith y rheolau newydd ar y busnes

Mae rheolwyr busnesau yn poeni bydd y rheolau hunan-ynysu newydd yng Nghymru yn arwain at golledion ariannol iddyn nhw a'u cwsmeriaid.

Wrth i'r amrywiolyn newydd Omicron ledaenu ar raddfa sydyn iawn yn Ne Affrica, mae yna reolau hunan-ynysu newydd wedi dod i rym yng Nghymru.

O dan y rheolau newydd, os oes rhywun yn profi'n bositif am Omicron, mae'n rhaid i bawb sy'n byw yn yr un aelwyd neu sy'n gyswllt agos hunan-ynysu am ddeg diwrnod, hyd yn oed os maen nhw wedi cael eu brechu'n llawn.

Ond yn siarad ar raglen Newyddion S4C, fe rybuddiodd un o fusnesau cludo bwyd mwyaf Cymru y gallai'r rheolau newydd fod yn "drasiedi" i fusnesau cyn y Nadolig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ddydd Mawrth bod angen "ymddwyn yn ofalus a chymryd o ddifrif y sefyllfa a'r bygythiad, yn wir, o gymysgu â phobl eraill y tu mewn yn ystod y cyfnod hwn".

Yn ystod mis Gorffennaf, cyn i'r rheolau hunan-ynysu lacio yng Nghymru, roedd dros 10,000 o bobl yn gorfod hunan-ynysu bob wythnos.

'Dibynnu ar y pedair wythnos nesaf'

Mae cwmni cludo bwyd Harlech Foods, sydd wedi'i leoli yn Llanystumdwy, Gwynedd, yn dibynnu'n llwyr ar eu staff i stocio'r warws, ac i gludo'r bwyd i wahanol leoliadau.

Wrth i'r rheolau hunan-ynysu dynhau, mae rheolwyr y busnes yn pryderu fod newid cyson i'r rheolau'n mynd i arwain at brinder staff ar un o adegau prysura'r flwyddyn.

Mae'r cwmni yn cyflogi dros 200 o staff ac yn cludo bwyd i filoedd o gwmnïau drwy Brydain.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Evans gall y rheolau hunan-ynysu newydd arwain at 'drasiedi' i fusnesau fel Harlech Foods

Dywedodd Ian Evans, rheolwr gweithrediadau Harlech Foods, fod y cwmni'n poeni y bydd rhai o'u cwsmeriaid, fel tai bwyta a gwestai, yn gorfod cau wrth i staff ynysu.

"Ac ella bydd y staff yn gorfod ynysu er bo' nhw'n hollol iach hefo'r rheolau newydd 'ma, ac ma hynna'n mynd i fod yn drasiedi. Achos ma'r busnesau 'ma'n dibynnu ar y pedair wythnos nesa' i 'neud y rhan fwyaf o'r pres neith nhw dros y flwyddyn gyfan."

Rhybuddiodd y bydd yn rhaid i'r busnes daflu bwyd i ffwrdd os nad yw'n cael eu gwerthu.

"Mae gennym ni dros £2m o fwyd yn y warws yma yn barod i wasanaethu ein cwsmeriaid ni dros yr wythnosau nesa'. Os 'di'n cwsmeriaid ni'n cau mae 'na 'mond un lle mae'r bwyd yn mynd i fynd, i'r bin."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Hughes ddylai un rheol fod i bawb

Lawr y lôn yng Nghricieth, mae rheolwyr tafarn y Bryn Hir Arms wedi gorfod dyblu nifer eu staff dros y pandemig er mwyn ymdopi â'r rheolau diogelwch.

Maen nhw'n poeni fod newid y rheolau ynysu yn mynd i greu dryswch eto.

"Be' 'swn i yn licio gweld dwi'n meddwl bysai i bawb gael yr un un rheol," meddai Sian Hughes, rheolwraig y dafarn.

"Dio'm ots pwy na be', lle bynnag 'da chi'n dŵad... fel bod pawb yn dallt yn union be sy'n mynd ymlaen."

'Straen ychwanegol'

Ar ôl llwyddo i gadw'r Covid draw trwy gydol y pandemig, mae rheolwr cartref gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, yn meddwl bydd y rheolau newydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y staff a'r rheolwyr.

"Mae hynna'n mynd i roi fwy o straen arna ni," meddai Kim Ombler.

"Mae 'di bod yn anodd i'r staff dros y misoedd diwetha'. Mae hwn yn mynd i fod yn rhywbeth eto ar ben y straen yna, achos fel 'da ni gyd yn gwybod mae 'na lot o staff yn gadael y sector, oherwydd y rheolau 'da ni 'di gael yn y sector yma dros y flwyddyn ddiwetha'."

'Angen cymryd y sefyllfa o ddifrif'

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Eluned Morgan ddydd Mawrth ei fod yn "rhy gynnar i ddweud a fydd cyfyngiadau newydd" yn dod i rym yng Nghymru yn sgil lledaeniad Omicron.

Ond ychwanegodd y dylai pobl "ymddwyn yn ofalus a chymryd o ddifrif y sefyllfa a'r bygythiad, yn wir, o gymysgu â phobl eraill y tu mewn yn ystod y cyfnod hwn".

"Nid yw Omicron wedi cyrraedd Cymru eto, ond cwestiwn o amser yn unig ydyw cyn iddo wneud."

Beth yw'r rheolau newydd?

Os mai'r amrywiolyn Delta sy'n achosi prawf positif, mae'n rhaid i bawb o'r un aelwyd sydd wedi eu brechu'n llawn neu sydd o dan 17 oed hunan-ynysu tan eu bod nhw'n cael prawf negatif. Ond does dim rhaid i bobl sy'n gyswllt agos hunan-ynysu.

Ond os mai'r amrywiolyn Omicron sy'n cael ei ddal, mae'n rhaid i bawb sy'n byw yn yr un aelwyd neu sy'n gyswllt agos hunan-ynysu am 10 diwrnod - hyd yn oed os maen nhw wedi cael eu brechu'n llawn.