Rhybudd rhag cymdeithasu gormod dros y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai pobl gymryd y rhybudd am osgoi cymdeithasu yn ormodol y tu mewn yn ystod gwyliau'r Nadolig o ddifri', medd y Gweinidog Iechyd.
Fe ddaeth sylwadau Eluned Morgan wrth i Lywodraeth Cymru ymateb i amrywiolyn Omicron o Covid-19.
Ond dywedodd ei bod yn rhy gynnar i ddweud eto a fydd cyfyngiadau pellach dros yr ŵyl.
"Mae'n rhaid i bobl fod yn ofalus yn ystod cyfnod y Nadolig ac ystyried y sefyllfa o ddifri' a'r bygythiad o gymysgu gyda phobl eraill yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae'n rhywbeth sy'n rhaid i ni ei gymryd yn gwbl ddifrifol," meddai.
"Dyw Omicron ddim eto wedi cyrraedd Cymru - ond mater o amser yw hi cyn ei fod yn cyrraedd."
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru am gadw ysgolion ar agor "cyn hired â phosib" er y pryderon presennol am yr amrywiolyn newydd.
"Ry'n ni'n ymwybodol o'r niwed y gall hyn ei wneud i blant, mae eu tynnu o'r ysgol yn achosi anawsterau" o ran addysg ac iechyd meddwl.
"Felly byddwn yn gwneud ein gorau i gadw ysgolion ar agor a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r mesurau ar wisgo mygydau - nid dim ond yn y coridorau ond yn y dosbarthiadau hefyd," meddai.
"Ry'n am i blant wneud profion y flwyddyn nesaf, ac am bob diwrnod y maent yn ei golli mae'n anodd bwrw ymlaen â'r profion hynny.
"Y gweinidog addysg fydd yn penderfynu ar hynny, ac rwy'n gwybod ei fod yn cadw golwg agos ar y sefyllfa," ychwanegodd.
Newidiadau hunan-ynysu
Yn y cyfamser dywedodd bydd yn rhaid i bobl sy'n dod i gysylltiad gyda pherson sydd wedi'u heintio gyda'r amrywiolyn Omicron o Covid-19 hunan-ynysu am 10 diwrnod - hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu brechu'n llawn.
Dywedodd hefyd y byddai'r rhaglen i gynnig brechiad ychwanegol i bobl yn cael ei ehangu'n gyflym.
Er hynny roedd Dr Gill Richardson - sy'n arwain y rhaglen frechu yng Nghymru - yn credu y byddai cynllunio hynny yn "heriol".
Daeth cyngor gan y cydbwyllgor brechu, y JCVI, wrth i bryder gynyddu am yr amrywiolyn newydd.
Dywedodd Dr Richardson y bydd y rhaglen yn "anferth a chymhleth" ac y byddai galwad ar bobl i gynorthwyo i frechu pobl mor fuan â phosib.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae penaethiaid iechyd yn ystyried creu mwy o lefydd mewn clinigau, defnyddio canolfannau brechu 'gyrru-drwodd', a gweithio gyda meddygon teulu a staff gwasanaethau cyhoeddus eraill i roi brechiadau.
Bydd pobl hŷn a phobl fregus yn cael eu brechu gyntaf, medd Dr Richardson, ond roedd nifer o'r grwpiau yna eisoes wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y dylai disgyblion ysgolion wisgo mygydau ar unwaith wrth ymateb i'r newid.
Daeth cadarnhad hefyd o newidiadau i deithwyr sy'n dychwelyd i Gymru o dramor.
Mae 10 o wledydd wedi cael eu hychwanegu i'r rhestr goch - sy'n golygu mynd i westy cwarantîn wrth ddychwelyd.
Ond bydd pobl sy'n dod i mewn i Gymru o bob gwlad nawr yn gorfod cymryd prawf PCR - yn hytrach na phrawf llif unffordd - ar yr ail ddiwrnod ar ôl glanio.
Os yw'r prawf yna'n bositif, eto fe fydd rhaid hunan-ynysu tan i'r person gael prawf negyddol.
Wrth ymateb, fe alwodd Russell George AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig am "weinidog brechu" penodol.
Dywedodd y byddai hyn yn rhyddhau'r Gweinidog Iechyd i ddelio gyda'r pwysau arall sy'n wynebu'r GIG.
"Mae'r gweinidog nawr yn cael ei thynnu i bob cyfeiriad, a dyna pam mae angen gweinidog brechu fel y gall ganolbwyntio ar greu canolfannau brechu cerdded-i-mewn, sydd angen dod yn ôl, ac ailagor canolfannau brechu torfol yn ogystal," meddai.
Ar ran Plaid Cymru, roedd Delyth Jewell AS yn bryderus am les staff rheng flaen y GIG.
Dywedodd: "AM y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hi wedi bod yn anhygoel o anodd i weithwyr y GIG a phobl mewn gofal cymdeithasol.
"Ry'n ni angen sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bobl sy'n mynd i fod yn wynebu'r wythnosau nesaf dan straen a chyda pheth pryder."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021