Gwrthdrawiad A5 Llangefni: Dyn lleol 28 oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad un-cerbyd ar Ffordd Caergybi yr A5

Mae dyn wedi marw ac un arall wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad car ar Ynys Môn tua 17:30 nos Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ar gyfrion Llangefni, ar yr A5 Ffordd Caergybi rhwng Rhostrehwfa a Nant Turnpike.

Bu farw'r gyrrwr, dyn lleol 28 oed, yn y fan a'r lle wedi i'r car daro wal a pharhau i gae cyfagos.

Cafodd dyn lleol 25 oed oedd hefyd yn y car ei gludo i Ysbyty Gwynedd, ond mae o bellach wedi ei gymryd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio.

Maen nhw'n credu gwnaeth y car deithio ar hyd yr A4080 o ardal Tŷ Croes, ac yna ar hyd y B4422 trwy Langadwaladr, Bethel a Llangristiolus, cyn cyrraedd yr A5.

Roedd y dynion yn teithio mewn Seat Leon llwyd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad neu'r cerbyd nos Iau, neu oedd yn teithio ar hyd yr un ffyrdd.

Pynciau cysylltiedig