Claf canser yn ennill brwydr gyfreithiol am driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Maria WallpottFfynhonnell y llun, Maria Wallpott
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maria Wallpott ei bod "eisiau byw i weld fy mhlant yn graddio, disgyn mewn cariad a chael eu plant eu hunain"

Mae cyfreithwyr menyw o Gaerffili sydd â math o ganser prin yn dweud ei bod wedi ennill ei hapêl yn erbyn y rheiny wnaeth wrthod ariannu triniaeth iddi allai achub ei bywyd.

Roedd panel meddygol wedi gwrthod ariannu triniaeth i Maria Wallpott o Bontllanfraith ddwywaith, er bod meddygon y gwasanaeth iechyd yn argymell y driniaeth iddi.

Cafodd Ms Wallpott, 50, wybod fis Ebrill bod ganddi ganser difrifol ar ei phendics, sydd ers hynny wedi ymledu i'w ofarïau.

Dywedodd ei chyfreithwyr fod barnwr Uchel Lys wedi canfod o blaid Ms Wallpott yn y llys ddydd Gwener.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r panel ailedrych ar yr achos.

Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) y bydd yn ystyried penderfyniad y llys y "gweithredu'n briodol".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd

Mewn datganiad yn dilyn y gwrandawiad dywedodd Ms Wallpott ei bod yn teimlo "rhyddhad".

"Mae'r panel - sydd ddim yn arbenigwyr ar fy nghyflwr i - wedi anghofio eu bod yn delio â bod dynol, nid achos hypothetical," meddai.

"Er hynny, rydw i'n dal angen i'r panel wneud y peth iawn a rhoi'r cyfle i mi oroesi'r canser yma.

"Rydw i eisiau byw i weld fy mhlant yn graddio, disgyn mewn cariad a chael eu plant eu hunain - ydy hynny'n ormod i ofyn amdano?"

Y driniaeth ar gael yn Lloegr

Fe gymrodd Ms Wallpott Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a PGIAC i'r Uchel Lys yng Nghaerdydd i frwydro yn erbyn y penderfyniad.

Clywodd y gwrandawiad fod y driniaeth ar gael yn Lloegr.

Dywedodd bargyfreithiwr Ms Wallpott, Vikram Sachdeva wrth y llys: "Pe bai fy nghleient yn byw 25 milltir i'r dwyrain fe fyddai wedi cael y driniaeth yma."

Ychwanegodd nad yw'r panel wedi egluro'n fanwl pam fod cais Ms Wallpott wedi'i wrthod, a pham nad ydyn nhw'n credu y byddai'r driniaeth yn effeithiol yn ei hachos hi.

Ond dywedodd y cyfreithiwr oedd yn cynrychioli'r bwrdd iechyd a PGIAC, David Lock fod "dim achos" ar gyfer gofyn i'r GIG dalu am ei llawdriniaeth.

Dywedodd PGIAC mewn datganiad fod "penderfyniadau ar ba wasanaethau sy'n cael eu comisiynu yn seiliedig ar adolygiad manwl o dystiolaeth glinigol ac ystyriaethau cost-effeithiol".

Ychwanegodd nad oedd modd gwneud sylw ar achosion unigol ond y bydd yn ystyried penderfyniad y llys y "gweithredu'n briodol".